Cyfarfodydd

P-04-449 Ysbyty Tywysoges Cymru Pen-y-bont ar Ogwr - Achub ein Gwasanaethau - Atal yr Israddio!

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/06/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-449 Ysbyty Tywysoges Cymru Pen-y-bont ar Ogwr - Achub ein Gwasanaethau - Atal yr Israddio!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn wyneb ymateb y deisebydd.

 


Cyfarfod: 16/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-449 Ysbyty Tywysoges Cymru Pen-y-bont ar Ogwr - Achub ein Gwasanaethau - Atal yr Israddio!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn am farn y deisebydd ar yr ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg; ac

·         aros am gyhoeddiad y cynlluniau gwasanaeth ar gyfer De Cymru.

 

 


Cyfarfod: 29/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-449 Ysbyty Tywysoges Cymru Pen-y-bont ar Ogwr - Achub ein Gwasanaethau - Atal yr Israddio!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Abertawe Bro Morgannwg, gan anfon copi at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i ofyn eu barn ar y ddesieb, gofyn pa ymgynghoriad sydd wedi cael ei gynnal, sut y bydd yr ymgynghoriad hwn yn helpu i ddatblygu cynlluniau a phryd y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ynghylch gwasanaethau ym Mhen-y-bont ar Ogwr.