Cyfarfodydd

P-04-448 Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/05/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Gohebiaeth

Papur i’w Nodi:

Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Cadeirydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a chytunodd i weithio gyda Chydffederasiwn y GIG i helpu i hwyluso atebion gan Fyrddau Iechyd Lleol.

 

4.2 Yn dilyn cynnig gan y Cadeirydd, cytunodd y Pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod er mwyn trafod mater sy’n ymwneud â busnes mewnol y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 03/02/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-448 Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu unwaith eto at y deisebydd yn gofyn am ei barn am y llythyr gan y Bwrdd Iechyd.

 

Ar bwynt ehangach cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at:

 

  • y Gweinidog yn amlinellu faint o amser y mae wedi ei gymryd (ac yn ei gymryd) i gael atebion gan fyrddau iechyd a gofyn pa gamau y mae'n bwriadu eu cymryd i wella'r sefyllfa; a'r
  • Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i weld a oes ganddynt unrhyw bryderon.

 

 


Cyfarfod: 20/01/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-448 Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         ysgrifennu eto at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn mynegi pryder mawr yn niffyg ymateb gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, gyda chopïau’n mynd at Gadeirydd y Bwrdd Iechyd a Chadeirydd y Cyngor Iechyd Cymunedol; a

  • llunio papur i ddwyn ynghyd y wybodaeth am yr anawsterau o ran cael ymatebion gan Fyrddau Iechyd ar nifer o ddeisebau.

 

 


Cyfarfod: 03/06/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-448 Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog yn mynegi pryder difrifol am y diffyg ymateb gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro; a'r

·         Cyngor Gofal Iechyd Cymunedol yn mynegi pryderon y Pwyllgor ynghylch y Bwrdd Iechyd ac yn gofyn a ydynt wedi ymgymryd ag unrhyw ymchwiliadau ynghylch y materion a godwyd yn y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-448 Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yn mynegi pryder ynghylch y diffyg ymateb, gan anfon copi at y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 


Cyfarfod: 16/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-448 Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ofyn am ragor o fanylion ar amserlen yr adolygiad gwasanaethau iechyd rhywiol; ac

·         ailedrych ar y ddeiseb ar ôl i’r adolygiad gael ei gwblhau i ystyried y goblygiadau ar gyfer gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro.

 

 


Cyfarfod: 29/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-448 Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at:

·         y Gweinidog Iechyd a Gwasanethau Cymdeithasol i gael ei barn ar y ddeiseb; a

·         Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn gofyn a yw’n teimlo bod ganddo gyllideb ddigonol i weithredu gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro ac a oes unrhyw gynlluniau i gael gwared ar y clinig presennol.