Cyfarfodydd

P-04-447 Ymgyrch am Gerflun o Harri’r Seithfed ym Mhenfro

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/06/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-447 Ymgyrch am Gerflun o Harri’r Seithfed ym Mhenfro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at y deisebydd a staff Aelod Cynulliad yr etholaeth a'r rhanbarth gyda'r wybodaeth yn y briff ymchwil; a

·         chau'r ddeiseb. 

 


Cyfarfod: 21/01/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-447 Ymgyrch am Gerflun o Harri’r Seithfed ym Mhenfro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         dynnu sylw Aelodau Rhanbarthol ac Etholaethol y Cynulliad yn ardal Penfro at y ddeiseb; a

·         gofyn am bapur ymchwil ar ba sefydliadau a fyddai'r rhai gorau i gyfeirio'r ddeiseb atynt mewn perthynas â'r materion ariannu.

 


Cyfarfod: 10/12/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-447 Ymgyrch am Gerflun o Harri’r Seithfed ym Mhenfro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y deisebwyr eto.

 

 


Cyfarfod: 24/09/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-447 Ymgyrch am Gerflun o Harri’r Seithfed ym Mhenfro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am ymatebion gan Ymddiriedolaeth Castell Penfro a Chyngor Tref Penfro.


Cyfarfod: 16/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-447 Ymgyrch am Gerflun o Harri’r Seithfed ym Mhenfro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         Ymddiriedolaeth Castell Penfro a Chyngor Tref Penfro i ofyn am eu barn ar y ddeiseb; a’r

·         Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon i ofyn am ragor o wybodaeth am y Cynlluniau Dehongli ar gyfer y Canol Oesoedd hwyrach.

 


Cyfarfod: 15/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-447 Ymgyrch am Gerflun o Harri’r Seithfed ym Mhenfro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

Ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn gofyn am ei farn ar y ddeiseb;

Holi am safbwyntiau ehangach ar y ddeiseb drwy ysgrifennu at Gyngor Sir Penfro, Parc Cenedlaethol Arfordirol Sir Benfro, Cymdeithas Twristiaeth Sir Benfro, Partneriaeth Twristiaeth De-orllewin Cymru a chymdeithasau hanesyddol perthnasol.