Cyfarfodydd
Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Twf a Seilwaith
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 05/02/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - y Bil Twf a Seilwaith - Diwygiadau i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988
NDM5125 Edwina Hart (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Twf a Seilwaith
sy’n ymwneud â diwygiadau i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i’r graddau y
maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 18 Rhagfyr 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Dogfennau Ategol
I weld copi o’r Bil ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2012-13/growthandinfrastructure.htm
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad
y Pwyllgor Menter a Busnes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.42
Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM5125 Edwina Hart (Gŵyr)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried y darpariaethau yn y Bil Twf a Seilwaith sy’n ymwneud â diwygiadau i
Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i’r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Rhagfyr 2012
yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Cyfarfod: 05/02/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol - y Bil Twf a Seilwaith - Caniatâd Cynllunio Tybiedig ar gyfer cydsyniadau i gynhyrchu
NDM5124 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau sy’n ymwneud
â chaniatâd cynllunio tybiedig ar gyfer cydsyniadau i gynhyrchu o dan adrannau
36 a 37 o Ddeddf Trydan 1989, sydd wedi cael eu dwyn ymlaen yn y Bil Twf a
Seilwaith, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 13 Rhagfyr 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Dogfennau Ategol
I weld copi o’r Bil ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2012-13/growthandinfrastructure/documents.html
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad
Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.33
Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM5124 John Griffiths
(Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried y darpariaethau sy’n ymwneud â chaniatâd cynllunio tybiedig ar
gyfer cydsyniadau i gynhyrchu o dan adrannau 36 a 37 o Ddeddf Trydan 1989, sydd
wedi cael eu dwyn ymlaen yn y Bil Twf a Seilwaith, i’r graddau y maent yn dod o
fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Rhagfyr 2012
yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Cyfarfod: 17/01/2013 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Twf a Seilwaith - Trafod y dull gweithredu
E&S(4)-02-13 papur 4
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 6
Cofnodion:
7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y
papur.
Cyfarfod: 16/01/2013 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Trafodaeth ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Bil Twf a Seilwaith, Diwygiadau i'r Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (11.30-12.00)