Cyfarfodydd

P-04-446 Rhyddhad Ardrethi Busnes i siopau elusen yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-04-446 Rhyddhad Ardrethi Busnes i siopau elusen yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. O ystyried y safbwynt a nodwyd yn ymateb y Gweinidog a’r ffaith bod y ddeiseb wedi bod o dan ystyriaeth ers dros dair blynedd, cytunwyd y dylid cau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 04/02/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-446 Rhyddhad Ardrethi Busnes i siopau elusen yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i glywed barn y deisebwyr ac aros am gadarnhad gan y Gweinidog o'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd.

 


Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-446 Rhyddhad Ardrethi Busnes i siopau elusen yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog gan rannu gohebiaeth ddiweddaraf y deisebwyr, a gofyn am gael y wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau ei hymholiadau i Lywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill.

 


Cyfarfod: 16/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-446 Rhyddhad Ardrethi Busnes i siopau elusen yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros am benderfyniad y Gweinidog.

 

 


Cyfarfod: 19/02/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-446 Rhyddhad Ardrethi Busnes i siopau elusen yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan y Gweinidog am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddonaeth i ofyn iddo hysbysu’r Pwyllgor unwaith y bydd penderfyniad wedi’i wneud.

 


Cyfarfod: 15/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-446 Rhyddhad Ardrethi Busnes i siopau elusen yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth a’r Gweinidog Cyllid cyn gynted â phosibl i ofyn am eu barn ar y ddeiseb a gofyn beth yw canfyddiadau’r ymgynghoriad diwethaf a phryd y mae penderfyniad yn debygol o gael ei wneud ar y mater.