Cyfarfodydd
Financial update to the Commission
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 28/02/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Y wybodaeth ddiweddaraf am Berfformiad Ariannol 2012-13
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y
gyllideb ar gyfer 2012-13, fel yr oedd ar ddiwedd mis Ionawr 2013. Cyrhaeddwyd
y targed gwerth am arian o £470,000 am y flwyddyn, a disgwyliwyd iddo gynyddu
ychydig ymhellach erbyn diwedd y flwyddyn. Roedd hefyd yn debygol y byddai
tanwariant o rhwng tua £0.3 miliwn a £0.4 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn
ariannol, ond roedd hyn o fewn y targed o 1%. Roedd arian wrth gefn o £175,000
wedi’i neilltuo ar gyfer Darpariaeth Pensiwn yr Aelodau, a byddai hyn yn
cynyddu’r tanwariant os na fyddai ei angen.
Bu’r Comisiynwyr yn trafod y ffordd y mae alldro y rhagolygon misol yn cael eu defnyddio gan y Bwrdd Rheoli a’r Bwrdd Buddsoddi er mwyn defnyddio holl gyllideb y Comisiwn yn effeithiol, gan nodi bod y prosesau rheoli arian hyn wedi’u rheoli’n dda yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol.
Cyfarfod: 29/11/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Y wybodaeth ariannol ddiweddaraf 2012-13