Cyfarfodydd

Y Dull o Graffu

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 05/12/2012 - Is-bwyllgorau ar Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Y Dull o Graffu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y ddau Is-bwyllgor ar y cylch gorchwyl a’r llythyr ymgynghori.

 

2.2 Cytunodd y ddau Is-bwyllgor ar opsiwn 2 fel yr opsiwn amserlen o ddewis gyda’r posibilrwydd o ddefnyddio opsiwn 1 - slotiau presennol y Pwyllgor Menter a Busnes a’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - ar gyfer cyfarfodydd pellach fel y bo angen.

 

2.3 Cytunodd yr Aelodau ar y rhestr o ymgynghoreion a’r rhestr o dystion i roi tystiolaeth lafar. Cytunwyd y byddai’r gwahoddiad am dystiolaeth lafar yn cael ei roi i gynrychiolydd o’r Byrddau Iechyd Lleol.

 

2.4 Nododd y Cadeirydd mai’r nod oedd ceisio cytuno ar adroddiad ar y cyd a fyddai’n cael ei gyfeirio’n ôl er mwyn i’r ddau riant bwyllgor gytuno arno.