Cyfarfodydd
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Atal Twyll Tai Cymdeithasol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 08/01/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Atal Twyll Tai Cymdeithasol
NDM5082 Huw Lewis
(Merthyr Tudful a Rhymni)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y
dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Atal Twyll Tai Cymdeithasol i'r
graddau y mae'r darpariaethau hynny o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad
Cenedlaethol Cymru.
Mae
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30
Hydref 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
I
weld copi o’r Bil ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2012-13/preventionofsocialhousingfraud/documents.html
Dogfennau ategol:
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad
y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.42
NDM5082 Huw
Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Atal Twyll Tai Cymdeithasol i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 30 Hydref 2012 yn unol â Rheol Sefydlog
29.2(iii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 22/11/2012 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Bil Atal Twyll Tai Cymdeithasol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Bil Atal Twyll Tai Cymdeithasol (Saesneg
yn unig)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Bil Atal Twyll Tai Cymdeithasol
(Saesneg yn unig)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 4 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (5/1)
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
5.1 Trafododd y Pwyllgor y Bil Atal Twyll Tai Cymdeithasol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.