Cyfarfodydd

P-04-440 : Dywedwch ‘Na’ i werthu asedau Ysbyty Bronllys

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-04-440 Dywedwch ‘Na’ i werthu asedau Ysbyty Bronllys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys a chytunodd i gau’r ddeiseb oherwydd bod Aelodau’n teimlo y byddai’r mater bellach yn cael ei ddwyn ymlaen orau ar lefel fwy lleol.

 


Cyfarfod: 20/01/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-440 : Dywedwch ‘Na’ i werthu asedau Ysbyty Bronllys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu eto at Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, gan geisio ymateb ganddo i lythyr y Cadeirydd dyddiedig 17 Hydref y llynedd a’i farn ar sylwadau diweddaraf y deisebydd.

 


Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-440 Dywedwch ‘Na’ i werthu asedau Ysbyty Bronllys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Bwrdd Iechyd yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf o’i bersbectif a gofyn am ei farn ar lythyr y deisebydd a’r cynigion gan y grŵp gweithredu lleol.

 


Cyfarfod: 24/09/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-440 Dywedwch ‘Na’ i werthu asedau Ysbyty Bronllys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i weld yr achos busnes ar y weledigaeth y mae'r Bwrdd Iechyd yn ei ffafrio, y mae'r Prif Weithredwr wedi cytuno i'w roi i'r Pwyllgor pan fydd ar gael.


Cyfarfod: 02/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-440 Dywedwch ‘Na’ i werthu asedau Ysbyty Bronllys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Powys i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau sy’n berthnasol i Fronllys.

 


Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-440 Dywedwch ‘Na’ i werthu asedau Ysbyty Bronllys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Brycheiniog a Maesyfed Cyngor Iechyd Cymuned i rannu gohebiaeth y deisebwr a cheisio ei farn am y ddeiseb.

 

Yn ogystal, nododd y Pwyllgor bod Andrew Cottom, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol Powys, yn barod i fod yn bresennol mewn sesiwn graffu ynghylch y ddeiseb. O dan yr amgylchiadau hynny byddai’r prif ddeisebwr hefyd yn cael gwahoddiad i gyflwyno ei achos.

 

 


Cyfarfod: 04/12/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-440 : Dywedwch ‘Na’ i werthu asedau Ysbyty Bronllys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf.

Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn adnabod rhai o’r deisebwyr a bod aelodau o’i deulu wedi llofnodi’r ddeiseb.

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor ei fod wedi cael gohebiaeth yn ddiweddar yn nodi bod pythefnos ychwanegol wedi’i neilltuo ar gyfer y cyfnod ymgynghori ar gynigion y bwrdd iechyd.

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, gan anfon copi at y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i ofyn am eu barn ar y ddeiseb ac i ofyn pryd y gwneir y penderfyniad terfynol ar y cynigion.