Cyfarfodydd
Busnes yr wythnos hon
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 16/07/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr Wythnos Hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Dydd Mawrth
· Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm
Mynegodd Heledd Fychan siom nad yw'r diweddariadau
diweddar ar 'Drefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd' yn y GIG a fframwaith mesurau
arbennig newydd, gan gynnwys meini prawf dad-ddwysáu ar gyfer Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi cael eu gwneud fel datganiadau llafar ac felly
yn destun gwaith craffu gan y Senedd. Nododd y Trefnydd y byddai ystyriaeth yn
cael ei rhoi i gyflwyno datganiadau llafar ar y materion hyn.
Dydd Mercher
Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a
ganlyn:
· Cynnig i
atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)
· Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl y ddadl fer.
· Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.45pm