Cyfarfodydd
Dadl ar Adroddiad Blynyddol Datblygu Cynaliadwy
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 27/11/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl ar Adroddiad Blynyddol Datblygu Cynaliadwy
NDM5102 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnydd a wnaed mewn perthynas â datblygu cynaliadwy yn 2011-12,
fel yr amlinellir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar y Cynllun
Datblygu Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 20
Tachwedd 2012.
Dogfen Ategol
Adroddiad
Blynyddol y Cynllun Datblygu Cynaliadwy 2011-12
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig:
Yn croesawu’r ffaith bod Adroddiad
Blynyddol y Cynllun Datblygu Cynaliadwy wedi’i gyhoeddi, ac yn arbennig sylwadau’r
Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi
argymhellion y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ar waith, er mwyn sicrhau y
rhoddir digon o sylw i feysydd fel amaethyddiaeth, diogelu'r cyflenwad bwyd a
thwristiaeth yn y dyfodol.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig:
Yn nodi beirniadaeth y Comisiynydd Dyfodol
Cynaliadwy fod ‘rhai rhannau o’r adroddiad i’w gweld yn hyrwyddo arian a
ddyrennir ac a werir ar gynlluniau yn hytrach na hyrwyddo’r canlyniadau a’r
manteision i gynaliadwyedd sy’n deillio o’r cynlluniau hynny’, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ailystyried y modd y mae’n asesu llwyddiant rhaglenni
Llywodraeth Cymru ar draws pob adran, yn seiliedig ar ganlyniadau yn hytrach
nag ar fewnbwn.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig:
Yn credu y bydd Llywodraeth Cymru yn
gwneud mwy o gynnydd at Gymru gynaliadwy os gwnaiff sicrhau bod mwy o’r
canlynol ar gael:
a) rhaglenni effeithlonrwydd ynni cartref
fel Arbed;
b) rhaglenni sy'n annog cymunedau i fuddsoddi mewn prosiectau ynni adnewyddadwy
graddfa fach fel trydan dŵr;
ac
c) trafnidiaeth gyhoeddus integredig.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i
drydanu, a’r effaith gadarnhaol y bydd hyn yn ei chael ar leihau allyriadau CO2
Cymru.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig:
Yn mynegi pryder nad yw Llywodraeth Cymru
wedi gwneud llawer o gynnydd at wella ei Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy yn
2012.
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig:
Yn galw ar y Llywodraeth i ddod â chamau
unioni ymlaen ar frys i adfer y 22 Dangosydd Datblygu Cynaliadwy ar gyfer 2012
sydd wedi dirywio neu nad ydynt wedi gwella.
Gellir gweld Dangosyddion Datblygu
Cynaliadwy 2012 yn:
http://wales.gov.uk/docs/statistics/2012/120829sdr1382012en.pdf
[Yn agor ffenestr newydd] (Saesneg yn unig)
Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig:
Yn gresynu bod y prif ddangosydd Gwerth
Ychwanegol Crynswth, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, yn cyfateb i 74% o
gyfartaledd y DU yn 2010, yr isaf o blith y gwledydd datganoledig a rhanbarthau
Lloegr.
Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig:
Yn gresynu na ddefnyddir llawer ar
ddangosyddion economaidd yn yr adroddiad i ystyried llwyddiant polisi Datblygu
Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig:
Yn nodi pryderon parhaus y Comisiynydd
Dyfodol Cynaliadwy ynghylch elfennau o strwythur a chynnwys yr adroddiad.
Gwelliant 11 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r
argymhellion a wneir yn yr adroddiad gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ar
waith yn llawn.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15:21
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig:
Yn croesawu’r ffaith bod Adroddiad Blynyddol
y Cynllun Datblygu Cynaliadwy wedi’i gyhoeddi, ac yn arbennig sylwadau’r
Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy.
Derbyniwyd
gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi
argymhellion y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ar waith, er mwyn sicrhau y
rhoddir digon o sylw i feysydd fel amaethyddiaeth, diogelu'r cyflenwad bwyd a
thwristiaeth yn y dyfodol.
Derbyniwyd
gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig:
Yn nodi beirniadaeth y Comisiynydd Dyfodol
Cynaliadwy fod ‘rhai rhannau o’r adroddiad i’w gweld yn hyrwyddo arian a
ddyrennir ac a werir ar gynlluniau yn hytrach na hyrwyddo’r canlyniadau a’r
manteision i gynaliadwyedd sy’n deillio o’r cynlluniau hynny’, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ailystyried y modd y mae’n asesu llwyddiant rhaglenni
Llywodraeth Cymru ar draws pob adran, yn seiliedig ar ganlyniadau yn hytrach
nag ar fewnbwn.
Derbyniwyd
gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig:
Yn credu y bydd Llywodraeth Cymru yn
gwneud mwy o gynnydd at Gymru gynaliadwy os gwnaiff sicrhau bod mwy o’r
canlynol ar gael:
a) rhaglenni effeithlonrwydd ynni cartref
fel Arbed;
b) rhaglenni sy'n annog cymunedau i fuddsoddi mewn prosiectau ynni adnewyddadwy
graddfa fach fel trydan dŵr;
ac
c) trafnidiaeth gyhoeddus integredig.
Derbyniwyd
gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i
drydanu, a’r effaith gadarnhaol y bydd hyn yn ei chael ar leihau allyriadau CO2
Cymru.
Derbyniwyd
gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon
tan y Cyfnod Pleidleisio.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn mynegi pryder nad yw Llywodraeth Cymru
wedi gwneud llawer o gynnydd at wella ei Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy yn
2012.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
33 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant
6.
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig:
Yn galw ar y Llywodraeth i ddod â chamau
unioni ymlaen ar frys i adfer y 22 Dangosydd Datblygu Cynaliadwy ar gyfer 2012
sydd wedi dirywio neu nad ydynt wedi gwella.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y
Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig heb ei ddiwygio.
Felly, gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig:
Yn gresynu bod y prif ddangosydd Gwerth
Ychwanegol Crynswth, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, yn cyfateb i 74% o
gyfartaledd y DU yn 2010, yr isaf o blith y gwledydd datganoledig a rhanbarthau
Lloegr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy
Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig heb ei ddiwygio.
Felly, gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig:
Yn gresynu na ddefnyddir llawer ar
ddangosyddion economaidd yn yr adroddiad i ystyried llwyddiant polisi Datblygu
Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
19 |
0 |
33 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant
9.
Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig:
Yn nodi pryderon parhaus y Comisiynydd
Dyfodol Cynaliadwy ynghylch elfennau o strwythur a chynnwys yr adroddiad.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant
10.
Gwelliant 11 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r argymhellion
a wneir yn yr adroddiad gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ar waith yn llawn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant
11.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5102 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnydd a wnaed mewn perthynas â
datblygu cynaliadwy yn 2011-12, fel yr amlinellir yn Adroddiad Blynyddol
Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad
Cenedlaethol Cymru ar 20 Tachwedd 2012.
Yn croesawu’r ffaith bod Adroddiad Blynyddol y Cynllun Datblygu Cynaliadwy
wedi’i gyhoeddi, ac yn arbennig sylwadau’r Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi argymhellion y Comisiynydd Dyfodol
Cynaliadwy ar waith, er mwyn sicrhau y rhoddir digon o sylw i feysydd fel
amaethyddiaeth, diogelu'r cyflenwad bwyd a thwristiaeth yn y dyfodol.
Yn nodi beirniadaeth y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy fod ‘rhai rhannau o’r
adroddiad i’w gweld yn hyrwyddo arian a ddyrennir ac a werir ar gynlluniau yn
hytrach na hyrwyddo’r canlyniadau a’r manteision i gynaliadwyedd sy’n deillio
o’r cynlluniau hynny’, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y modd y
mae’n asesu llwyddiant rhaglenni Llywodraeth Cymru ar draws pob adran, yn
seiliedig ar ganlyniadau yn hytrach nag ar fewnbwn.
Yn credu y bydd Llywodraeth Cymru yn
gwneud mwy o gynnydd at Gymru gynaliadwy os gwnaiff sicrhau bod mwy o’r
canlynol ar gael:
a) rhaglenni effeithlonrwydd ynni cartref
fel Arbed;
b) rhaglenni sy'n annog cymunedau i fuddsoddi mewn prosiectau ynni adnewyddadwy
graddfa fach fel trydan dŵr;
ac
c) trafnidiaeth gyhoeddus integredig.
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i drydanu,
a’r effaith gadarnhaol y bydd hyn yn ei chael ar leihau allyriadau CO2 Cymru.
Yn nodi pryderon parhaus y Comisiynydd
Dyfodol Cynaliadwy ynghylch elfennau o strwythur a chynnwys yr adroddiad.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r
argymhellion a wneir yn yr adroddiad gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ar
waith yn llawn.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
13 |
52 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.