Cyfarfodydd

Y Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/06/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Llythyr gan Gadeiryddion yr Is-bwyllgorau

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 06/06/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 19/02/2013 - Is-bwyllgorau ar Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9)

9 SFP(4)-03-13 - Papurau 8 a 9 – Tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dilyn y cyfarfod ar 29 Ionawr

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 19/02/2013 - Is-bwyllgorau ar Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9)

9 SFP(4)-03-13 - Papur 7 - Tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol gan Equity yn dilyn y cyfarfod ar 29 Ionawr.

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 19/02/2013 - Is-bwyllgorau ar Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 SFP(4)-03-13 - Papur 6 - Tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol gan ASH Cymru yn dilyn y cyfarfod ar 22 Ionawr

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 19/02/2013 - Is-bwyllgorau ar Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Y prif faterion a’r camau nesaf

Cofnodion:

6.1 Cytunodd yr is-bwyllgorau i glywed rhagor o dystiolaeth lafar ar ôl y Pasg gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Prif Swyddog Meddygol, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, Panel y Sector Diwydiannau Creadigol a Chomisiwn Sgrin Cymru. 


Cyfarfod: 19/02/2013 - Is-bwyllgorau ar Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Sesiwn dystiolaeth 7

 

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
SFP(4)-03-13 – Papur 4

·         Bethan Jones, Rheolwr Gweithredol, Diogelwch Cyhoeddus & Tai Sector Preifat, Nghyngor Caerdydd

 

Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd

SFP(4)-03-13 – Papur 5

 

·         Julie Barratt, Cyfarwyddwr

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd yr is-bwyllgorau dystiolaeth gan Gyngor Caerdydd a Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd.

 

4.2 Bydd y Pwyllgor yn cael astudiaeth achos o brofiad cynhyrchu ffilmiau yng Ngogledd Iwerddon sydd yn yr adroddiad Effaith Economaidd y Diwydiant Ffilm Prydeinig.


Cyfarfod: 19/02/2013 - Is-bwyllgorau ar Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Sesiwn dystiolaeth 6

Asiantaeth Ffilm Cymru

SFP(4)-03-13 – Papur 3

 

·         Pauline Burt, Prif Weithredwr

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd yr is-bwyllgor dystiolaeth gan Asiantaeth Ffilm Cymru.

 

3.2 Bydd y Pwyllgor yn cael yr adroddiad llawn gan ganolfan ymchwil economaidd gymdeithasol y DU sydd wedi ei hariannu i astudio rheoli tybacco. 


Cyfarfod: 19/02/2013 - Is-bwyllgorau ar Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Sesiwn dystiolaeth 5

Coleg Brenhinol y Ffisigwyr
SFP(4)-03-13 – Papur 1

 

·         Dr Keir Lewis FRCP, Meddyg ymgynghorol ym maes Meddygaeth Anadlu

 

Cymdeithas Feddygol Prydain
SFP(4)-03-13 – Papur 2

 

·         Dr Tony Calland, Cadeirydd adran foeseg y BMA

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd yr is-bwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol y Ffisigwyr.  

 

2.2 Bydd y Pwyllgor yn ceisio rhagor o dystiolaeth gan brifysgol Stirling ar yr ymchwil y mae wedi ei wneud i lefelau ysmygu ar sgrin, ei effaith ar iechyd y cyhoedd ac amlygu cynnyrch sigarennau.

 


Cyfarfod: 29/01/2013 - Is-bwyllgorau ar Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Y Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Sesiwn Dystiolaeth 4

Byrddau Iechyd Lleol  

SFP(4)-02-13 – Papur 4

 

·         Dr Sharon Hopkins, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro

 

Iechyd Cyhoeddus Cymru 
SFP(4)-02-13 – Papur 5

 

·         Dr Hugo Van Woerden, Cyfarwyddwr yr Is-adran Iechyd a Gwella Gofal Iechyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd yr is-bwyllgorau dystiolaeth gan y Bwrdd Iechyd Lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

3.2 Cytunodd Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddarparu gwybodaeth i aelodau’r is-bwyllgorau ar y canlynol:

 

-       Cyfraddau rhoi’r gorau i ysmygu yng Nghymru a Lloegr ers 2007, fesul grŵp oed;

-    Ffigurau yn dangos newidiadau i lefelau ysmygu yng Nghymru a Lloegr ers cyflwyno’r gwaharddiad ysmygu.


Cyfarfod: 29/01/2013 - Is-bwyllgorau ar Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Y Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Sesiwn Dystiolaeth 3

BECTU

SFP(4)-02-13 – Papur 1

 

·         Sian Gale, Cadeirydd Cangen Gweithwyr Annibynnol De Cymru, BECTU

 

Equity
SFP(4)-02-13 – Papur 2

 

·         Simon Curtis, Trefnydd Cenedlaethol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd yr is-bwyllgorau dystiolaeth gan BECTU ac Equity.

 

2.2 Cytunodd y tystion i ddarparu rhagor o wybodaeth ar sut mae’r eithriad i’r ddeddfwriaeth mangreoedd di-fwg yn gweithio yn Lloegr.

 

2.3 Cytunodd Equity i ddarparu ei ffigurau aelodaeth am y blynyddoedd diwethaf i aelodau’r is-bwyllgorau, iddynt weld pa gyfran o’i aelodau sy’n Gymry.

 


Cyfarfod: 22/01/2013 - Is-bwyllgorau ar Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012- Sesiwn Dystiolaeth 2

ASH Cymru
SFP(4)-01-13 – Papur 4

 

·         Felicity Waters, Rheolwr y Wasg ac Ymgyrchoedd 

 

Sefydliad Prydeinig y Galon
SFP(4)-01-13 – Papur 5

 

·         Delyth Lloyd, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu

 

Cancer Research UK
SFP(4)-01-13 – Papur 6

 

·         Dr Jean King, Cyfarwyddwr Rheoli Tybaco

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd yr is-bwyllgorau dystiolaeth gan gynrychiolwyr ASH Cymru, Sefydliad Prydeinig y Galon a Cancer Research UK.

 

3.2 Cytunodd yr is-bwyllgorau i chwilio am ragor o wybodaeth am effaith atal ysmygu ar setiau ffilm a theledu ar y diwydiannau ffilm a theledu yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

 


Cyfarfod: 22/01/2013 - Is-bwyllgorau ar Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Sesiwn Dystiolaeth 1

BBC Cymru

SFP(4)-01-13 – Papur 1

SFP(4)-01-13 – Papur 1a

 

·         Clare Hudson - Pennaeth Cynyrchiadau BBC Cymru

 

PACT (Cynghrair Cynhyrchwyr Sinema a Theledu)
SFP(4)-01-13 – Papur 2

 

·         Sue Vertue, Hartswood Films ac aelod o PACT

 

Teledwyr Annibynnol Cymru
SFP(4)-01-13 – Papur 3

SFP(4)-01-13 – Papur 3a

 

·         Sion Clwyd Roberts, Arbenigwr Cyfryngau ac Eiddo Deallusol - Capital Law ac aelod o Gyngor TAC

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1        Cymerodd yr is-bwyllgorau dystiolaeth gan gynrychiolwyr BBC Cymru a Teledwyr Annibynnol Cymru.

2.2        Cytunodd y tystion i ddarparu rhagor o wybodaeth am y costau ynglwm wrth y rheoliadau, gan gynnwys: cost adleoli cynhyrchiadau’r BBC i Loegr i recordio golygfeydd dramatig sy’n cynnwys actorion yn ysmygu; costau am fod cynyrchiadau yn penderfynu peidio â dod i Gymru o ganlyniad i ddiffyg eithriad yn y ddeddfwriaeth; a rhagor o fanylion am y gost o efelychu ysmygu gan ddefnyddio technoleg CGI.

 


Cyfarfod: 29/11/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.17 i sefydlu Is-bwyllgor i gymryd tystiolaeth ar y Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012

HSC(4)-32-12 papur 5

 

Bod y Pwyllgor yn penderfynu, o dan Reol Sefydlog 17.17, sefydlu is-bwyllgor i gymryd tystiolaeth ar Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012;

mai cylch gwaith yr is-bwyllgor hwnnw yw cymryd tystiolaeth, ar yr un pryd â’r is-bwyllgor a sefydlwyd gan y Pwyllgor Menter a Busnes ar Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012.  Bydd yr is-bwyllgor yn ceisio cytuno ar gynnwys adroddiad a lunnir ar y cyd â’r is-bwyllgor a sefydlwyd gan y Pwyllgor Menter a Busnes er mwyn llywio trafodaethau’r Cynulliad ar y rheoliadau. Bydd yr Is-bwyllgor yn cael ei ddiddymu unwaith y bydd y Cynulliad wedi trafod y rheoliadau yn y Cyfarfod Llawn;

bod aelodaeth yr is-bwyllgor yn cynnwys Mark Drakeford AC, Vaughan Gething AC, Elin Jones AC, Darren Millar AC a Lynne Neagle AC, gyda Mark Drakeford AC wedi’i ethol yn Gadeirydd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor â’r cynnig.

 


Cyfarfod: 29/11/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cynnig i sefydlu is-bwyllgor ar gyfer Rheoliadau Mangreoedd etc Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig.


Cyfarfod: 15/11/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Gohebiaeth gan Arweinydd y Tŷ ar Reoliadau Mangreoedd etc Di-fwg (Cymru) (Diwygio)

HSC(4)-30-12 papur 8

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr.


Cyfarfod: 17/10/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ - Rheoliadau Mangreoedd Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012

HSC(4)-27-12 (papur 2)

Dogfennau ategol: