Cyfarfodydd

P-04-437 : Gwrthwynebu cofrestru gorfodol ar gyfer plant sy’n derbyn addysg yn y cartref

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/06/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-437 Gwrthwynebu cofrestru gorfodol ar gyfer plant sy’n derbyn addysg yn y cartref

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-437 Gwrthwynebu cofrestru gorfodol ar gyfer plant sy’n derbyn addysg yn y cartref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros am gyhoeddiad y dadansoddiad o’r ymgynghoriad.


Cyfarfod: 29/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-437 Gwrthwynebu cofrestru gorfodol ar gyfer plant sy’n derbyn addysg yn y cartref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth Weinidogol am y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn gofyn iddo roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor unwaith y bydd penderfyniad ar y ffordd ymlaen wedi cael ei wneud.

 


Cyfarfod: 20/11/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-437 Gwrthwynebu cofrestru gorfodol ar gyfer plant sy'n derbyn addysg yn y cartref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau er mwyn cael ei farn, gan amlygu pryderon penodol y deisebwyr.