Cyfarfodydd

P-04-436 : Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/11/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-436 Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i longyfarch y deisebydd ar ganlyniad llwyddiannus ei ymgyrch ac i gau'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 08/03/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-436: Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth a chytunodd i ofyn i’r deisebydd am ei sylwadau.

 


Cyfarfod: 03/06/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-436 Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i anfon copi o adroddiad Gwariant y Llywodraeth a Refeniw yr Alban (GERS) at y Gweinidog gan ofyn a oes modd gwneud rhywbeth tebyg yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 10/12/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-436 Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog eto i ofyn iddi a hoffai fynd i'r afael â'r rhan refeniw o'r ddeiseb yn benodol, yn enwedig yng ngoleuni'r cyhoeddiadau diweddar mewn perthynas â Chomisiwn Silk.

 

 


Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-436 Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd yr eitem hon i'w thrafod ar 10 Rhagfyr 2013.

 


Cyfarfod: 24/09/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-436 Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog ymateb i'r pwyntiau eraill a godwyd gan y deisebydd.

 


Cyfarfod: 16/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Gwariant a Refeniw'r Llywodraeth yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid yn tynnu sylw at ohebiaeth y deisebydd a gofyn a fydd gwybodaeth refeniw yn cael ei rhyddhau.


Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-436 Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i geisio barn y deisebwr am ohebiaeth y Gweinidog.


Cyfarfod: 15/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-436 Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ i ofyn am ei barn ar y ddeiseb.