Cyfarfodydd

P-04-435 : Gweithredu Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau 2018 ar Sail Ddi-ddifidend

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/09/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-435 Gweithredu Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau 2018 ar Sail Ddi-ddifidend

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod y Gweinidog wedi cytuno i gynnwys y deisebydd mewn ymgynghoriadau yn y dyfodol.


Cyfarfod: 18/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 P-04-435 Gweithredu Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau 2018 ar Sail Ddi-ddifidend

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn gofyn am gynnwys y deisebwr ar y rhestr ymgynghori ar gyfer gwaith ymgynghori ar reilffyrdd yng Nghymru yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 16/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-435 Gweithredu Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau 2018 ar Sail Ddi-ddifidend

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn am farn y deisebydd ar yr ohebiaeth weinidogol; ac

·         ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i’w hysbysu am y ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 06/11/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-435 Gweithredu Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau 2018 ar Sail Ddi-ddifidend

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i ofyn ei farn ar y ddeiseb.