Cyfarfodydd

Graddau TGAU Saesneg Iaith Haf 2012

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 08/11/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Graddau TGAU Saesneg Iaith Haf 2012

Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

 

Chris Tweedale, CyfarwyddwrGrŵp Ysgolion a Phobl Ifanc

 

Cassy Taylor, Pennaeth Rheoleiddio Cymwyseddau Cyffredinol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod. Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i’r tystion.

 


Cyfarfod: 24/10/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Graddau TGAU Saesneg Iaith Haf 2012

Ofqual

 

Glenys Stacey, Prif Reoleiddiwr

 

Cath Jadhav, Cyfarwyddwr Dros Dros Safonau ac Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Glenys Stacey a Cath Jadhav i’r cyfarfod. Holodd yr aelodau y tystion.

 

Cam i’w gymryd:

 

Cytunodd Glenys Stacey i ddarparu ffigur canrannol cyffredinol y farchnad ar gyfer y gyfres newydd o gymwysterau TGAU Saesneg y mae pob un o’r cyrff dyfarnu (CBAC, AQA, Edexcel, OCR a CCEA) yn ei chynrychioli.


Cyfarfod: 24/10/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Graddau TGAU Saesneg Iaith Haf 2012

CBAC

 

Gareth Pierce, Prif Weithredwr

 

Jo Richards, Pennaeth Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Gareth Pierce a Jo Richards i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion.

 

Camau i’w cymryd:

 

·         Dywedodd Gareth Pierce fod CBAC wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith adolygol i edrych ar yr effaith y byddai methodoleg Cyfnod Allweddol 2 yn ei chael ar ganlyniadau’r arholiadau TGAU, ar wahân i Saesneg lle'r oedd y mwyafrif o’r ymgeiswyr yn Lloegr. Ni wiriwyd y gwaith eto, ond cytunodd i’w rannu gyda’r Pwyllgor maes o law. 

 

·         Cytunodd Gareth Pierce i gadarnhau a oedd rheolydd Cymru yng nghyfarfod y Grŵp Safonau a Materion Technegol ar 14 Mawrth 2012.