Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/02/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 7)

7 Diweddariad ar welliannau i’r Bil Pensiynau a Swyddi Barnwrol y Gwasanaeth Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau’r diweddariad.

 


Cyfarfod: 29/01/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9.)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol - Bil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus

NDM5055 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus fel y’i cyflwynwyd yn Nhy’r Cyffredin ar 13 Medi 2012 sy’n ymwneud â’r cyfyngiadau sydd i’w cymhwyso i’r cynlluniau pensiwn newydd ar gyfer cyrff cyhoeddus, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Dogfennau ategol
I weld copi o’r Bil ewch i:
Dogfennau’r Bil — Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus 2012-13 — Senedd y DU (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Nodyn Cyngor Cyfreithiol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 18.18

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5055 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar 13 Medi 2012 sy’n ymwneud â’r cyfyngiadau sydd i’w cymhwyso i’r cynlluniau pensiwn newydd ar gyfer cyrff cyhoeddus, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

8

50

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 08/01/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus - cymalau sy’n ymwneud â’r cyfyngiadau sydd i’w cymhwyso i gynlluniau newydd - Gohiriwyd

 

NDM5055 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar 13 Medi 2012 sy’n ymwneud â’r cyfyngiadau sydd i’w cymhwyso i’r cynlluniau pensiwn newydd ar gyfer cyrff cyhoeddus, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

 

I weld copi o’r Bil ewch i:

 

http://services.parliament.uk/bills/2012-13/publicservicepensions/documents.html

 

Dogfennau ategol:

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol


Cyfarfod: 05/11/2012 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)

5. Eitem 5: Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Papurau:

 

CLA(4)-21-12)(t1) - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus – Cymalau yn Ymwneud â’r Cyfyngiadau sydd i’w Cymhwyso i Gynlluniau Newydd

CLA(4)-21-12(t2) – Adroddiad y Cynghorwyr Cyfreithiol

CLA(4)-22-12(t3) – Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog dyddiedig 24 Hydref 2012

CLA(4)-22-12(t4) – Ymateb y Gweinidog

 

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 22/10/2012 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Papurau:

CLA(4)-21-12(p1) - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Bil Pensiynau’r Gwasanaeth CyhoeddusCymalau yn ymwneud â’r Cyfyngiadau sydd i’w Cymhwyso i Gynlluniau Newydd

CLA(4)-21-12(p2) – Adroddiad y cynghorwyr cyfreithiol

Dogfennau ategol: