Cyfarfodydd

P-06-1551 Atal newidiadau niweidiol Llywodraeth Cymru i ddeintyddiaeth y GIG

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/02/2026 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1551 Atal newidiadau niweidiol Llywodraeth Cymru i ddeintyddiaeth y GIG

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS fuddiant perthnasol o dan Reol Sefydlog 17.24A mewn perthynas ag eitemau 2.3 a 2.4 oherwydd bod ei ddeintydd bellach wedi mynd yn breifat a nododd gontract y GIG fel rheswm am hynny.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddwy ddeiseb ar ddeintyddiaeth gyda'i gilydd – Deiseb P-06-1551 (Eitem 2.3) a deiseb P-06-1557 (Eitem 2.4) – a chododd ei bryderon ynghylch darparu gwasanaethau deintyddol fel mater i fynd ar ei drywydd ymhellach yn y Seithfed Senedd. O ystyried yr amserlen ar gyfer gweithredu'r contract deintyddol newydd, penderfynwyd diolch i'r deisebwyr am godi mater mor bwysig a chau'r ddwy ddeiseb. Cytunwyd, wrth wneud hynny, y byddai'r Pwyllgor yn ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i dynnu sylw at y ddwy ddeiseb.