Cyfarfodydd
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cyllid (Rhif 2)
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 25/02/2026 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 25/02/2026 - Y Pwyllgor Cyllid
- Trawsgrifiad ar gyfer 25/02/2026 - Y Pwyllgor Cyllid
2 PTN 1 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cyllid (Rhif 2) - 17 Chwefror 2026
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 03/02/2026 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 10)
- Gweddarllediad ar gyfer 03/02/2026 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 03/02/2026 - Y Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cyllid (Rhif 2)
NDM9125 Mark Drakeford (Gorllewin
Caerdydd)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â
Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Cyllid (Rhif 2)
i’r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig, gael eu hystyried gan
Senedd y DU.
Troednodyn:
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Rhagfyr 2025 yn unol â Rheol
Sefydlog 29.2.
Gellir gweld copi o’r Bil ar
wefan Senedd y DU: Finance (No. 2) Bill - Parliamentary Bills - UK
Parliament
Dogfennau ategol:
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.08
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan
y Cyfnod Pleidleisio.
NDM9125 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Cyllid (Rhif 2) i’r graddau y maent yn
ystyried materion datganoledig, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Troednodyn:
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Rhagfyr
2025 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU: Finance
(No. 2) Bill - Parliamentary Bills - UK Parliament
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
37 |
0 |
10 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfarfod: 27/01/2026 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)
Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid (Rhif 2)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
Cofnodion:
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i roi
gwybod i Bwyllgor Busnes y Seithfed Senedd y gallai fod angen iddo ystyried y
goblygiadau gweithdrefnol sy'n deillio o gyfraddau treth incwm eiddo Cymru, a
sut y byddai hyn yn gweithredu ochr yn ochr â phenderfyniad cyfraddau treth
incwm blynyddol Cymru.
Cyfarfod: 26/01/2026 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 13)
- Gweddarllediad ar gyfer 26/01/2026 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
- Trawsgrifiad ar gyfer 26/01/2026 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
13 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid (Rhif 2): Adroddiad drafft
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 12 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (13/1)
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft.
Cyfarfod: 21/01/2026 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 9)
- Gweddarllediad ar gyfer 21/01/2026 - Y Pwyllgor Cyllid
- Trawsgrifiad ar gyfer 21/01/2026 - Y Pwyllgor Cyllid
9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid (Rhif 2)
Dogfennau
ategol:
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid (Rhif 2) (PDF, 113KB)
Amserlen
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cyllid (Rhif 2) (PDF, 77KB)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 16 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (9/1)
Cofnodion:
9.1 Ystyriodd y
Pwyllgor y dogfennau ategol a'r dystiolaeth a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet
dros Gyllid a'r Gymraeg mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol,
a chytunodd i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet yn gofyn am ragor o
wybodaeth.
Cyfarfod: 19/01/2026 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 9)
- Gweddarllediad ar gyfer 19/01/2026 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
- Trawsgrifiad ar gyfer 19/01/2026 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid (Rhif 2).
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (9/1)
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i drafod
adroddiad drafft yn ei gyfarfod nesaf.