Cyfarfodydd
Dignity and Respect Survey
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 15/12/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Arolwg Urddas a Pharch
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
- Cyfyngedig 4
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf
i’r Comisiynwyr ar weithgarwch sy'n gysylltiedig ag urddas a pharch yn y
Comisiwn, a chawsant ganlyniadau'r arolwg urddas a pharch diweddar sydd, am y tro cyntaf, yn cynnwys canlyniadau ar
draws tri maes; Aelodau/staff cymorth yr Aelodau, staff y Comisiwn a defnyddwyr
adeiladau trydydd parti (deiliaid pasys).
Nododd y Comisiynwyr ganlyniadau’r arolwg
a’r camau gweithredu a nodwyd. Roeddent yn cytuno y dylid rhannu adroddiad yr
arolwg urddas a pharch â’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, y Comisiynydd Safonau, y Bwrdd Taliadau
Annibynnol, a’r Adolygiad Senedd sy’n Gynhwysol ac yn Ystyriol o Deuluoedd,
gyda disgwyliad y bydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn cyhoeddi’r adroddiad.
Nododd y Comisiynwyr
hefyd y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gweithgarwch a wnaed ers mis Ionawr
2025; ac ymgynghoriad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar ei gynigion ar gyfer gwneud y
broses safonau yn fwy annibynnol a gwella'r cymorth sydd ar gael i'r rhai sydd
â phryderon am urddas a pharch.