Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Bathodynnau Parcio Personau Anabl

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/11/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Bathodynnau Parcio Personau Anabl

NDM5039 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Bathodynnau Parcio Personau Anabl, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Gorffennaf 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Dogfennau Ategol
I weld copi o’r Bil ewch i:
Dogfennau’r Bil — Bil Bathodynnau Parcio Personau Anabl 2012-13 — Senedd y DU
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol




 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15:40


NDM5039 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Bathodynnau Parcio Personau Anabl, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 18/10/2012 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Bathodynnau Parcio Personau Anabl – Ystyried y dystiolaeth a’r adroddiad drafft

·         Tystiolaeth gan Anabledd Cymru;

·         Adroddiad drafft.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a’r adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.