Cyfarfodydd

P-06-1555 Adolygu’r holl ganllawiau ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer Cymru gyfan. Mynediad am ddim at addysg.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 14/01/2026 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6.)

Dadl ar ddeiseb P-06-1555 Adolygu’r holl ganllawiau ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer Cymru gyfan. Mynediad am ddim at addysg


Cyfarfod: 02/12/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau yn gwneud cais am ddadl

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 3

Cofnodion:

Datganodd Heledd Fychan ddiddordeb ar yr eitem hon: roedd hi wedi cymryd rhan yng nghyfarfod y Pwyllgor Deisebau pan gytunodd i wneud cais am ddadl ar y ddeiseb.

 

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cais a chytunodd i drefnu dadl ar ddeiseb P-06-1555 Adolygu'r holl ganllawiau ar Drafnidiaeth o'r Cartref i'r Ysgol ar gyfer Cymru gyfan. Mynediad am ddim i addysg ar 14 Ionawr 2026.

 


Cyfarfod: 24/11/2025 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1555 Adolygu’r holl ganllawiau ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer Cymru gyfan. Mynediad am ddim at addysg.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafodwyd y ddeiseb hon ochr yn ochr ag eitem 2.2, P-06-1533 Adolygu a diweddaru Darpariaethau 2-10 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008,

Wrth drafod y ddwy ddeiseb, cydnabu’r Aelodau’r teimladau cryf y mae’r materion perthnasol yn eu codi, yn enwedig yr effaith ar ysgolion ffydd, ysgolion cyfrwng Cymraeg a disgyblion o deuluoedd incwm isel. Er bod y materion hyn wedi’u trafod o'r blaen yn y Senedd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a'u codi yn ystod dadl fer o dan arweiniad Heledd Fychan AS, roedd yr Aelodau’n cydnabod bod pryderon yn parhau. Gan gydnabod hefyd arwyddocâd y mater hwn i deuluoedd, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am ddadl ar y ddeiseb.