Cyfarfodydd
Senedd Commission Budget 2026-27
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 03/11/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cyllideb derfynol y Comisiwn 2026-27
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
- Cyfyngedig 4
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf
am gynnydd Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2026-27 drwy ei broses graffu,
ers i’r Comisiwn gytuno ar y drafft ar 22 Medi.
Roedd y Pwyllgor Cyllid
wedi cynnal sesiwn graffu ar 1 Hydref 2025 a nododd y Comisiynwyr Adroddiad y
Pwyllgor, a gyhoeddwyd ar 21 Hydref 2025, a oedd yn cefnogi'r cais cyffredinol
am adnoddau yn 2026-27, gan argymell bod y Senedd yn cefnogi cyllideb y Comisiwn.
Trafododd y Comisiynwyr eu hymateb i'r
argymhellion a godwyd yn Adroddiad y Pwyllgor Cyllid, a chytunwyd y dylid
gwneud gwaith ychwanegol mewn perthynas â’r Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol
(IFRS) a chynnwys manylion ychwanegol cyn anfon yr ymateb at y Pwyllgor.
Bu’r Comisiynwyr hefyd yn trafod anghenion
cymorth y Senedd yn y dyfodol, a chytunwyd y dylai gwybodaeth ariannol
ychwanegol gael ei darparu i Bwyllgor Busnes y Seithfed Senedd fel y gallai
penderfyniadau a wnaeth y Pwyllgor ynghylch gweithgaredd busnes y Senedd gael
eu llywio gan wybodaeth am gostau.
Cymeradwywyd
y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2026-27 gan nodi, yn dilyn cael cymeradwyaeth gan
y Comisiwn, y byddai dogfen y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2026-27 yn cael ei
gosod ar 12 Tachwedd 2025 gyda'r disgwyl i’r Cynnig ynghylch y Gyllideb fod yn
destun dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 19 Tachwedd 2025.
Cyfarfod: 22/09/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cyllideb ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2026-27
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
- Cyfyngedig 9
- Cyfyngedig 10
Cofnodion:
Ystyriodd y Comisiynwyr
y Gyllideb Ddrafft arfaethedig ar gyfer 2026-27.
Roedd y Gyllideb
Ddrafft wedi’i datblygu ymhellach ers i’r Comisiwn drafod y Fframwaith Adnoddau
Tymor Canolig yn y cyfarfod ar 2 Mehefin.
Trafododd y
Comisiynwyr y cynigion a chytuno:
a)
ar y dyfarniad cyflog i staff y Comisiwn yn 2026-27;
b)
ar Gronfa Prosiectau (gan gynnwys £500,000 o gyfalaf) o
£2 miliwn;
c)
i leihau’r gyllideb ar gyfer costau Cyllid Pensiwn yr
Aelodau o £1 miliwn i £400,000; ac
d)
i gyfeirio at brosiect ‘Bae 32’ yn lle’r cyfeiriad at y
Rhaglen ‘Ffyrdd o Weithio’;
Ystyriodd y Comisiynwyr agweddau ar y
ddarpariaeth gyllidebol ar gyfer costau sy'n deillio o'r etholiad. Fe wnaethant
gymeradwyo'r Memorandwm Esboniadol drafft fel y mae i’w weld yn Atodiad A, yn
amodol ar newidiadau i'w cwblhau; a nodwyd y llythyr gan y Gweinidog Cyllid.
Byddai'r Gyllideb
Ddrafft y cytunwyd arni yn cael ei gosod gerbron y Senedd a'i darparu i'r
Pwyllgor Cyllid.
Cyfarfod: 14/07/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Y diweddaraf am y gyllideb
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 13
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y
sefyllfa o ran y trafodaethau ffurfiol rhwng Ochr Rheoli'r Comisiwn Ochr
Undebau Llafur y Comisiwn ynghylch y fframwaith cyflogau ar gyfer staff y
Comisiwn o fis Ebrill 2026 ymlaen.
Fe wnaethant hefyd
ystyried adborth ar y gwaith ymgysylltu a gynhaliwyd â dau Grŵp plaid hyd
yn hyn (gydag un Grŵp yn gwrthod y cynnig) ar y paratoadau ar gyfer
cyllideb ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2026-27.
Gofynnodd y
Comisiynwyr i swyddogion y Comisiwn sicrhau bod y Gyllideb Ddrafft a gyflwynir
ym mis Medi mor dynn ag y gallai fod, gan ystyried yr angen i sicrhau bod
gofynion y Senedd a'r ddarpariaeth gyllidebol gysylltiedig ar gyfer blwyddyn
gyntaf y Seithfed Senedd yn cael eu proffilio'n briodol, a chan ystyried hefyd
faterion capasiti a llesiant.
Hefyd, fe gawsant ragor o wybodaeth i lywio’r drafodaeth
ar opsiynau, i sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol ar gyfer yr opsiwn a
ffafrir yn cael eu cynnwys yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2026/27.
Gwnaeth y Comisiynwyr
a.
nodi’r sefyllfa ddiweddaraf o ran y
trafodaethau ag Ochr yr Undebau Llafur ynghylch cyflogau staff y Comisiwn;
b.
ystyried yr opsiynau pellach a gyflwynwyd a
chytuno ar y camau nesaf dymunol yn y broses o drafod cyflogau, sef:
-
symud i drafodaethau
cyflog blynyddol;
-
hunan-ariannu'r 0.5%
ychwanegol o'r dyfarniad cyflog;
-
gwneud codiannau
targedig a graddol ar 3.75% i raddau TS hyd at SEO, 3.25% i G7 i G6 a 3% i Gyfarwyddwyr/Prif
Swyddog Gweithredol; a
-
chytuno ar safbwynt ar
ddeialog bellach gydag Ochr yr Undebau Llafur, a ddaw i ben ym mis Awst.
Cyfarfod: 02/06/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Blociau Adeiladu’r Gyllideb
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 16
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr y prif
dybiaethau yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2026-27 sydd â goblygiadau ariannol,
a’r hyn y dylid ei adlewyrchu yn y cyflwyniad cyllidebol i'r Pwyllgor Cyllid ym
mis Hydref.
Rhoddodd y comisiynwyr eu barn gychwynnol ar y sail y bydd cyllideb
ddrafft fanwl 2026/27 yn cael ei pharatoi; a chadarnhau fod y rhagdybiaethau
gweithio yn briodol.
Byddai'r Gyllideb Ddrafft yn cael ei pharatoi ar gyfer cyfarfod y Comisiwn ym mis Medi, cyn cael ei gosod.