Cyfarfodydd

Ymchwiliad i Gronfa Buddsoddi i Arbed

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/05/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)

Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid Buddsoddi i Arbed

 

NDM5246 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Fuddsoddi i Arbed a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mawrth 2013.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Cyllid yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2013.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid

Ymateb Llywodraeth Cymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.31

NDM5246 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Fuddsoddi i Arbed a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mawrth 2013.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 16/01/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Buddsoddi i Arbed - Tystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid

 

Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Richard Clarke, Pennaeth yr Uned Buddsoddi i Arbed

Jeff Andrews, Cynghorydd Arbennig

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ; Jeff Andrews, Cynghorydd Arbennig; a Richard Clarke, Pennaeth Buddsoddi i Arbed.

 

2.2 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Gweinidog.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:

 

·         Nodyn ar ddosbarthiad daearyddol ceisiadau Buddsoddi i Arbed;

·         Nodyn yn esbonio sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod prosiectau yn glir o ran y meini prawf y mae angen iddynt eu dilyn wrth wneud cais am gyllid Buddsoddi i Arbed;

·         Rhagor o fanylion am aelodaeth panel cyfnod 2, gan gynnwys manylion am lefelau’r arbenigedd ar y paneli hynny, ac am y camau a gymerir i sicrhau bod y broses yn codi llai o ofn ar y rhai sy’n ymgeisio;

·         Eglurhad o sut bydd Llywodraeth Cymru yn rheoli’r gred sydd ar led bod tebygrwydd rhwng y meini prawf asesu ar gyfer y Gronfa Buddsoddi i Arbed a’r Gronfa Cydweithio Rhanbarthol;

·         Nodyn ar y gwahaniaeth rhwng y gwaith gwerthuso a wnaed gan Brifysgol Abertawe ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Castell-nedd a Phort Talbot mewn perthynas â’r prosiect Darbodus.

 


Cyfarfod: 16/01/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Trafod y dystiolaeth ynghylch Buddsoddi i Arbed

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd ar ei ymchwiliad i Buddsoddi i Arbed a chytunodd i ystyried adroddiad drafft mewn cyfarfod arall. 


Cyfarfod: 16/01/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Buddsoddi i Arbed - Adborth ynghylch ymweliadau aelodau'r Pwyllgor

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor adborth gan aelodau’r Pwyllgor sydd wedi cael cyllid Buddsoddi i Arbed.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi adroddiadau pob ymweliad. 


Cyfarfod: 05/12/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ystyried tystiolaeth ar y rhaglen Buddsoddi i Arbed

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar ei ymchwiliad i’r rhaglen Buddsoddi i Arbed.


Cyfarfod: 05/12/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Buddsoddi i Arbed - Cyfoeth Naturiol Cymru

FIN(4) 21-12 – Papur 1 – Rhaglen Cymru Fyw

 

Gretel Leeb, Uwch Swyddog Cyfrifol, Swyddog Gweithredol Rhaglen ‘Cymru Fyw’

Rob Bell, Adran Gyllid, Rhaglen ‘Cymru Fyw’

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Gretel Leeb, Uwch Swyddog â Chyfrifoldeb, rhaglen Cymru Fyw; a Rob Bell, yr Adran Gyllid, rhaglen Cymru Fyw, i’r cyfarfod.

 

2.2 Holodd y Pwyllgor y tystion.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd y rhaglen Cymru Fyw ddarparu:

 

·         Rhagor o wybodaeth am y pwerau benthyca sydd ar gael i’r rhaglen Cymru Fyw i ariannu’r gwaith o sefydlu’r un corff amgylcheddol.

·         Rhagor o wybodaeth am beth fyddai’r gwelliannau amgylcheddol a’r gwasanaethau i bobl a busnesau o gyfanswm arbedion y prosiect.

 

 


Cyfarfod: 21/11/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Buddsoddi i Arbed - Tystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

FIN(4) 20-12 - Papur 3 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro - Ymgyrch Wyn: Adennill a Chynnal Annibyniaeth

 

Fiona Jenkins, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd

Lynne Aston, Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Cadeirydd Fiona Jenkins, Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd.

 

4.2 Holodd yr Aelodau y tystion.


Cyfarfod: 21/11/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Buddsoddi i Arbed - Tystiolaeth gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

FIN(4)-20-12 Papur 2 – Prosiect Pŵer Ffotofoltäig Solar Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru 

 

Dr Rosie Plummer, Cyfarwyddwr

Clive Edwards, Rheolwr gweithrediadau a chyfleusterau

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Dr Rosie Plummer, Cyfarwyddwr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Clive Edwards, Pennaeth Cyfleusterau, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, i’r cyfarfod.

 

3.2 Holodd yr Aelodau y tystion.


Cyfarfod: 21/11/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Buddsoddi i Arbed - Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd ar Buddsoddi i Arbed.


Cyfarfod: 21/11/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Buddsoddi i Arbed - Tystiolaeth gan Gyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr

FIN(4)-20-12 Papur 1 – Prosiect Gwella eich Lle: Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr

 

David Sutherland, Pennaeth Technoleg, Eiddo a Gwasanaethau Cwsmeriaid

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd David Sutherland, Pennaeth TGCh ac Eiddo, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, i’r cyfarfod.

 

2.2 Holodd yr Aelodau y tyst.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd David Sutherland i ddarparu:

 

·         Nodyn yn esbonio’r gwaith cynllunio ariannol a wnaed gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o ran y prosiect Gwella Eich Lle, gan gynnwys a gafodd arian cyfatebol ei ddefnyddio.


Cyfarfod: 07/11/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Buddsoddi i Arbed - Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd ar yr ymchwiliad i Fuddsoddi i Arbed.

 

 


Cyfarfod: 07/11/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Buddsoddi i Arbed - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru

FIN(4) 16-12 – Papur 1 – Llywodraeth Cymru

 

Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyllid ac Arweinydd y Tŷ

Richard Clarke, Pennaeth y Uned Buddsoddi i Arbed
Jeff Andrews, Cynghorydd Arbennig

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Pwyllgor Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ; Jeff Andrews, Cynghorydd Arbenigol; a Richard Clarke, Pennaeth yr Uned Buddsoddi i Arbed.

 

2.2 Craffodd yr Aelodau ar waith y Gweinidog.

 

Camau Gweithredu:

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:

 

·         Rhagor o wybodaeth ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran gweithredu’r saith argymhelliad a ddeilliodd o werthusiad interim Buddsoddi i Arbed.

·         Tabl yn amlinellu cyfanswm yr arbedion sydd wedi’u cyflawni gan brosiectau ers rhoi’r rhaglen Buddsoddi i Arbed ar waith.

·         Tabl o’r holl ad-daliadau a wnaed gan brosiectau Buddsoddi i Arbed ers rhoi’r rhaglen ar waith. 

·         Dadansoddiad blynyddol o’r prosiectau a gafodd eu cyhoeddi ym mhob rownd Buddsoddi i Arbed a’r dyfarniadau prosiect a gafodd eu cynnwys ym mhob dyraniad o’r gyllideb.