Cyfarfodydd
P-06-1562 Gwella'r nifer sy’n gwneud defnydd o sgrinio'r fron i fenywod yng Nghymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 04/02/2026 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 3.2)
- Gweddarllediad ar gyfer 04/02/2026 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Trawsgrifiad ar gyfer 04/02/2026 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
3.2 Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn â'r ddeiseb P-06-1562: 'Gwella'r nifer sy'n gwneud defnydd o sgrinio'r fron i fenywod yng Nghymru'
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 12/01/2026 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 12/01/2026 - Y Pwyllgor Deisebau
- Trawsgrifiad ar gyfer 12/01/2026 - Y Pwyllgor Deisebau
2 P-06-1562 Gwella'r nifer sy’n gwneud defnydd o sgrinio'r fron i fenywod yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Briff Ymchwil, Eitem 2
PDF 350 KB
Gweld fel HTML (2/1) 45 KB
- Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, 20 Tachwedd 2025, Eitem 2
PDF 185 KB
- Gohebiaeth gan y Deisebydd, 11 Rhagfyr 2025 (Saesneg yn unig), Eitem 2
PDF 152 KB
Cofnodion:
Mynegodd y
Pwyllgor bryder ynghylch nifer y menywod sy’n cael eu sgrinio am ganser y fron,
gan nodi pwysigrwydd sicrhau bod menywod yn derbyn eu gwahoddiad cyntaf, gan
fod hyn yn fwy tebygol o sicrhau presenoldeb dro ar ôl tro. Cytunodd yr Aelodau
i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofyn
am ragor o wybodaeth ar y canlynol:
• Y defnydd presennol o’r 12 o ganolfannau
sgrinio symudol yng Nghymru, ac a ellid cynyddu hynny;
• Data ar wahaniaethau yn y nifer sy'n
manteisio ar y cynllun, er enghraifft, ffactorau economaidd-gymdeithasol neu
oedran;
• Eglurhad o'r nifer arbennig o isel o bobl
sy'n cael eu sgrinio yn Ynys Môn;
• Y mesurau sy'n cael eu cymryd i roi
adnoddau i Brawf Bron Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynyddu'r nifer sy'n
cael prawf, ac i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd, gan gynnwys a yw’r syniad o
gynnwys menywod blaenllaw o Gymru wedi'i ystyried;
• Pa ystyriaeth sy'n cael ei rhoi i'r
gwersi a ddysgwyd ac arfer gorau o waith codi ymwybyddiaeth diweddar GIG
Lloegr;
• Pryd y bydd y strategaeth tegwch sgrinio
newydd yn cael ei chyhoeddi a'i dwyn i sylw Aelodau o'r Senedd a'r cyhoedd, a
beth sy'n cael ei wneud i gynnwys menywod o oedran sgrinio a grwpiau sydd heb
ddigon o wasanaeth wrth ddatblygu'r strategaeth honno?
Nododd y Pwyllgor
fod tegwch sgrinio yn ymestyn y tu hwnt i ganser y fron, a chytunodd i anfon
copi o’r ohebiaeth at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Byddai'r ddeiseb yn aros ar agor tra’n disgwyl am yr ymateb hwnnw. Nodwyd bod
amser cyfyngedig ar ôl yn nhymor presennol y Senedd i’r Aelodau drafod y mater
yn y Siambr, fodd bynnag gallai Aelodau unigol dynnu sylw at ei bwysigrwydd o
hyd.