Cyfarfodydd

P-06-1552 Rhoi'r gorau i adeiladu ‘ffermydd’ solar diwydiannol yn agos at adeiladau preswyl ac o fewn ffiniau pentrefi

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 14/01/2026 - Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (Eitem 3)

3 Deiseb P-06-1552 Rhoi'r gorau i adeiladu 'ffermydd' solar diwydiannol yn agos at adeiladau preswyl ac o fewn ffiniau pentrefi

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/12/2025 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1552 Rhoi'r gorau i adeiladu ‘ffermydd’ solar diwydiannol yn agos at adeiladau preswyl ac o fewn ffiniau pentrefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, gan nodi bod ystyriaeth barhaus yn cael ei rhoi i leoliad paneli solar. Mynegodd yr Aelodau eu cydymdeimlad â phryderon y trigolion lleol, ond nodwyd bod hwn yn fater i'w drafod â'r awdurdodau cynllunio priodol. Cytunodd yr Aelodau y dylid tynnu sylw Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith at y ddeiseb. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ac i ddiolch i’r deisebydd.