Cyfarfodydd
P-06-1547 Mae treillio ar wely’r môr yn lladd ein bywyd gwyllt morol… Rhowch y gorau i chwalu’n bywyd gwyllt morol!
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 12/01/2026 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 12/01/2026 - Y Pwyllgor Deisebau
- Trawsgrifiad ar gyfer 12/01/2026 - Y Pwyllgor Deisebau
3 P-06-1547 Mae treillio ar wely’r môr yn lladd ein bywyd gwyllt morol… Rhowch y gorau i chwalu’n bywyd gwyllt morol!
Dogfennau ategol:
- Tudalen Flaen, Eitem 3
PDF 44 KB
Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- Gohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd, 18 Tachwedd 2025, Eitem 3
PDF 193 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd y llythyr gan yr Ysgrifennydd Cabinet, gan gynnwys
y gwahoddiad i'r deisebydd gymryd rhan yn yr adolygiad rheoli pysgota cregyn
bylchog. Gan nad oes ymateb wedi dod gan y deisebydd i ohebiaeth ddiweddaraf yr
Ysgrifennydd Cabinet, ac o ystyried bod y sefyllfa yng Nghymru yn wahanol i
ardaloedd eraill, cytunwyd i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.
Cyfarfod: 06/10/2025 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 06/10/2025 - Y Pwyllgor Deisebau
- Trawsgrifiad ar gyfer 06/10/2025 - Y Pwyllgor Deisebau
2 P-06-1547 Mae treillio ar wely’r môr yn lladd ein bywyd gwyllt morol… Rhowch y gorau i chwalu’n bywyd gwyllt morol!
Dogfennau ategol:
- Briff Ymchwil, Eitem 2
PDF 308 KB
Gweld fel HTML (2/1) 74 KB
- Gohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd, 27 Awst 2025, Eitem 2
PDF 187 KB
Cofnodion:
Nododd yr Aelodau
y gwaith o ddatblygu Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd fel y'u nodir yn ymateb yr
Ysgrifennydd Cabinet, a chytunwyd i ofyn i'r deisebydd pa ymgysylltiad yr oedd
wedi'i gael fel rhanddeiliad yn y gwaith o’u datblygu. Ac i ofyn i'r Gweinidog am
fanylion pellach ynghylch yr ymgynghoriad cyhoeddus ar Gynllun Rheoli Cregyn y
Brenin. Bydd y ddeiseb yn cael ei chadw ar agor wrth aros am yr ymateb hwnnw.