Cyfarfodydd

Enwebu'r Dirprwy Lywydd - y Pedwerydd Cynulliad

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/05/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)

Ethol Dirprwy Lywydd o dan Reol Sefydlog 6

Penderfyniad:

Estynnodd y Llywydd wahoddiad am enwebiadau yn unol â Rheol Sefydlog 6.6.

Cynigiodd Jocelyn Davies enwebu William Graham.
Eiliwyd yr enwebiad gan Peter Black.

Cynigiodd Simon Thomas enwebu David Melding.
Eiliwyd yr enwebiad gan Christine Chapman.

Gan fod dau enwebiad, cynhaliwyd pleidlais gyfrinachol yn unol â Rheol Sefydlog 6.8.

 

Roedd canlyniadau’r bleidlais gyfrinachol fel a ganlyn:

 

William Graham

 

David Melding

Ymatal

Cyfanswm

12

46

 

1

59


Cyhoeddodd y Llywydd bod David Melding wedi’i ethol yn Ddirprwy Lywydd.

Gwnaeth y Dirprwy Lywydd araith fer.