Cyfarfodydd

P-04-427: Cyfraith newydd ynghylch y Gymraeg

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 30/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-427 Cyfraith newydd ynghylch y Gymraeg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytuno i gau’r ddeiseb yn wyneb yr ymatebion gan y Gweinidog a Chomisiynydd y Gymraeg sy’n awgrymu nad oes deddfwriaeth newydd ar y ffordd.


Cyfarfod: 29/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-427 Cyfraith newydd ynghylch y Gymraeg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at:

·         Gomisiynydd y Gymraeg yn gofyn a yw’n teimlo bod y ddeddfwriaeth bresennol yn gwarchod siaradwyr Cymraeg yn ddigonol, a pha fesurau pellach sydd eu hangen, os o gwbl; a’r

·         Gweinidog Addysg a Sgiliau yn gofyn iddi egluro a all y Llywodraeth gyflwyno deddfwriaeth o’r fath.

 


Cyfarfod: 04/12/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-427: Cyfraith newydd ynghylch y Gymraeg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth weinidogol mewn cysylltiad â’r ddeiseb a chytunodd i ofyn yn ffurfiol am farn y deisebydd ar yr ohebiaeth.

 


Cyfarfod: 16/10/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-427: Cyfraith newydd ynghylch y Gymraeg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau a’r Gweinidog Busnes, Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am eu barn am y ddeiseb.