Cyfarfodydd

P-04-423: Cartref Nyrsio Brooklands

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-423 Cartref Nyrsio Brooklands

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod y cais cynllunio, a oedd wrth wraidd y ddeiseb, bellach wedi'i dynnu'n ôl.

 


Cyfarfod: 24/09/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-423 Cartref Nyrsio Brooklands

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i gael barn y deisebydd ar y sefyllfa ddiweddaraf fel yr amlinellwyd gan y Cyngor.

 


Cyfarfod: 02/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-423 Cartref Nyrsio Brooklands

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Gyngor Sir Penfro, gan ofyn iddo a oes cynlluniau i ailgyflwyno cais cynllunio. Cytunwyd y byddai Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cael ei gynnwys yn yr ohebiaeth hon.

 


Cyfarfod: 04/12/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-423: Cartref Nyrsio Brooklands

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r ddeiseb.

Dywedodd y Cadeirydd a Joyce Watson eu bod yn gwrthwynebu’r cynigion am safle amwynder dinesig a bod hwy neu eu staff wedi ymweld â Chartref Nyrsio Brooklands i siarad â phreswylwyr a staff am y mater.

Dywedodd Joyce Watson ei bod wedi cael gohebiaeth ar y mater gan Gyngor Sir Benfro, ac y bydd yn ei rhannu â’r Pwyllgor.

Cytunodd y Pwyllgor i rannu’r ohebiaeth a gafwyd gan y deisebwyr â Chyngor Sir Penfro ac i ofyn am ymateb i’r pryderon a godwyd yn yr ohebiaeth honno.


Cyfarfod: 02/10/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-423 Cartref Nyrsio Brooklands

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i:

Ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i ofyn am ei farn ar agwedd gynllunio ar y ddeiseb;

Gwneud darn o waith i ganfod a fyddai’r penderfyniad cynllunio hwn, pe bai’n mynd rhagddo, yn enghraifft gyntaf o leoliad o’r fath ac a fyddai hyn yn gosod cynsail.