Cyfarfodydd

NDM8857 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Yswiriant Gwladol y Cyflogwr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/03/2025 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Yswiriant Gwladol y Cyflogwr

NDM8857 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnydd Llywodraeth y DU i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, sy'n dod i rym ar gyfer y flwyddyn dreth 2025-26.

2. Yn cydnabod yr effaith niweidiol y bydd y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn ei chael ar elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud sylwadau ar frys i Lywodraeth y DU i sicrhau y bydd elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cynnwys yn niffiniad Llywodraeth y DU o gyflogeion y sector cyhoeddus a ddiffiniwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac, o ganlyniad, y byddant yn cael eu had-dalu am y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth ar ol pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod:

a) nad yw yswiriant gwladol wedi'i ddatganoli:

b) bod elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru yn poeni am effaith cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr; ac

c) bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud sylwadau, a bydd yn parhau i wneud sylwadau, i Lywodraeth y DU ar ran gwasanaethau cyhoeddus ac elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru ynghylch cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr.

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at:

a) y bwriad i ddyrannu ad-daliadau’r Trysorlys i wasanaethau cyhoeddus craidd ar sail Fformiwla Barnett, a fyddai’n gadael Cymru yn wynebu diffyg o gymharu â Lloegr.

b) y diffyg eglurder ynghylch swm llawn y costau i wasanaethau cyhoeddus craidd yng Nghymru o ganlyniad i’r newidiadau hyn, lai na mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol nesaf ac ar ôl i gyllideb Cymru gael ei basio.

Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud galwadau brys ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod costau cynnydd yng nghyfraniadau yswyriant gwladol cyflogwyr i wasanaethau cyhoeddus craidd yng Nghymru yn cael eu talu’n llawn gan Drysorlys y DU.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.47

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8857 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi cynnydd Llywodraeth y DU i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, sy'n dod i rym ar gyfer y flwyddyn dreth 2025-26. 

2. Yn cydnabod yr effaith niweidiol y bydd y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn ei chael ar elusennau,cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru. 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud sylwadau ar frys i Lywodraeth y DU i sicrhau y bydd elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cynnwys yn niffiniad Llywodraeth y DU o gyflogeion y sector cyhoeddus a ddiffiniwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac, o ganlyniad, y byddant yn cael eu had-dalu am y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

36

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg) 

Dileu popeth ar ol pwynt 1 a rhoi yn ei le: 

Yn cydnabod: 

a) nad yw yswiriant gwladol wedi'i ddatganoli: 

b) bod elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru yn poeni am effaith cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr; ac 

c) bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud sylwadau, a bydd yn parhau i wneud sylwadau, i Lywodraeth y DU ar ran gwasanaethau cyhoeddus ac elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru ynghylch cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

24

50

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De Cymru)   

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud galwadau brys ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod costau cynnydd yng nghyfraniadau yswyriant gwladol cyflogwyr i wasanaethau cyhoeddus craidd yng Nghymru yn cael eu talu’n llawn gan Drysorlys y DU. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

1

50

Derbyniwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd: 

1.   Yn nodi cynnydd Llywodraeth y DU i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, sy'n dod i rym ar gyfer y flwyddyn dreth 2025-26.

2.   Yn cydnabod:

a) nad yw yswiriant gwladol wedi'i ddatganoli: 

b) bod elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru yn poeni am effaith cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr; ac 

c) bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud sylwadau, a bydd yn parhau i wneud sylwadau, i Lywodraeth y DU ar ran gwasanaethau cyhoeddus ac elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru ynghylch cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr.

3.   Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud galwadau brys ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod costau cynnydd yng nghyfraniadau yswyriant gwladol cyflogwyr i wasanaethau cyhoeddus craidd yng Nghymru yn cael eu talu’n llawn gan Drysorlys y DU. 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

14

50

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.