Cyfarfodydd
NDM8852 Dadl Plaid Cymru - Cyllid seilwaith rheilffyrdd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 12/03/2025 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 12/03/2025 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 12/03/2025 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru - Cyllid seilwaith rheilffyrdd
NDM8852 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) cydnabyddiaeth yr
Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth y DU mewn gohebiaeth â Llywodraeth Cymru
bod seilwaith rheilffyrdd Cymru wedi dioddef o lefelau hanesyddol isel o
wariant ar welliannau dros nifer o flynyddoedd;
b) bod y tanariannu
systematig hwn yn ychwanegol at gadw cyllid canlyniadol HS2 yn ôl; ac
c) yn ôl dadansoddiad
Llywodraeth Cymru yn 2020, bydd Cymru, o gymharu â’i chyfran o boblogaeth y DU
a hyd llwybr y rhwydwaith rheilffyrdd, yn wynebu diffyg o rhwng £2.4
biliwn a £5.1 biliwn mewn cyllid i wella ein rheilffyrdd ar sail ymrwymiadau
Llywodraeth y DU dros y cyfnod rhwng 2019 I 2029.
2. Yn gresynu:
a) bod adroddiadau yn
nodi bwriad Canghellor y DU i rewi gwariant ar brosiectau rheilffyrdd newydd
mawr tan ar ôl etholiad nesaf y DU, a fyddai’n dwysau ymhellach y tanariannu
systematig ar gyfer rheilffyrdd Cymru, a hynny am o leiaf bedair blynedd arall;
a
b) bod addewidion
blaenorol Llywodraeth y DU ar seilwaith rheilffyrdd, a oedd ynddynt eu hunain
yn annigonol i wneud iawn am danariannu hanesyddol, megis yr addewid i
drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, wedi methu â chael eu gwireddu.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) darparu ffigyrau
wedi’u diweddaru ar y diffyg mewn-fuddsoddiad i wella’r rheilffyrdd yng
Nghymru;
b) cadarnhau ei safbwynt
y dylid ail-ddynodi HS2 yn brosiect i Loegr yn unig ac y dylai Cymru gael
y symiau canlyniadol yn unol â ffigyrau a ddyfynnwyd gan Weinidogion presennol
Llywodraeth y DU pan mewn gwrthblaid; ac
c) ysgrifennu at yr
Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth y DU i ofyn i’r symiau canlyniadol llawn
gael eu rhyddhau i Gymru a gwrthdroi lefelau isel o wariant ar welliannau.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant
1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu:
a) bod Llywodraeth y DU
wedi cydnabod y lefelau hanesyddol o isel o wariant ar y rheilffyrdd yng
Nghymru; a
b) y ffaith bod
Llywodraeth y DU wedi cefnogi cyfres o flaenoriaethau ar gyfer gwella’r
rheilffyrdd a bennwyd gan fwrdd Rheilffyrdd Cymru.
2. Yn nodi bod
Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau:
a) cyllid ar gyfer
cyfres uchelgeisiol o welliannau i’r rheilffyrdd, gan gychwyn gyda chyflawni
argymhellion Comisiynau Trafnidiaeth Gogledd Cymru a De-ddwyrain Cymru;
b) adolygiad o brosesau
buddsoddi Network Rail er mwyn sicrhau bod Cymru’n derbyn cyfran deg o
fuddsoddiad Network Rail yn y dyfodol;
c) cyllid ar gyfer
gwelliannau i Linellau Craidd y Cymoedd; a
d) lefel briodol o
gymhared gyda rhaglenni perthnasol Llywodraeth y DU o fewn fformiwla Barnett,
gan gydnabod bod y cyfrifoldeb am y rhan hon o’r rhwydwaith rheilffyrdd yng
Nghymru bellach wedi’i ddatganoli.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ym mhwynt 2, dileu
is-bwynt b)
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.39
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y
Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8852 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) cydnabyddiaeth yr
Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth y DU mewn gohebiaeth â Llywodraeth Cymru
bod seilwaith rheilffyrdd Cymru wedi dioddef o lefelau hanesyddol isel o
wariant ar welliannau dros nifer o flynyddoedd;
b) bod y tanariannu
systematig hwn yn ychwanegol at gadw cyllid canlyniadol HS2 yn ôl; ac
c) yn ôl dadansoddiad
Llywodraeth Cymru yn 2020, bydd Cymru, o gymharu â’i chyfran o boblogaeth y DU
a hyd llwybr y rhwydwaith rheilffyrdd, yn wynebu diffyg o rhwng £2.4
biliwn a £5.1 biliwn mewn cyllid i wella ein rheilffyrdd ar sail ymrwymiadau
Llywodraeth y DU dros y cyfnod rhwng 2019 I 2029.
2. Yn gresynu:
a) bod adroddiadau yn
nodi bwriad Canghellor y DU i rewi gwariant ar brosiectau rheilffyrdd newydd
mawr tan ar ôl etholiad nesaf y DU, a fyddai’n dwysau ymhellach y tanariannu
systematig ar gyfer rheilffyrdd Cymru, a hynny am o leiaf bedair blynedd arall;
a
b) bod addewidion
blaenorol Llywodraeth y DU ar seilwaith rheilffyrdd, a oedd ynddynt eu hunain
yn annigonol i wneud iawn am danariannu hanesyddol, megis yr addewid i
drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, wedi methu â chael eu gwireddu.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) darparu ffigyrau
wedi’u diweddaru ar y diffyg mewn-fuddsoddiad i wella’r rheilffyrdd yng
Nghymru;
b) cadarnhau ei
safbwynt y dylid ail-ddynodi HS2 yn brosiect i Loegr yn unig ac y dylai
Cymru gael y symiau canlyniadol yn unol â ffigyrau a ddyfynnwyd gan Weinidogion
presennol Llywodraeth y DU pan mewn gwrthblaid; ac
c) ysgrifennu at yr
Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth y DU i ofyn i’r symiau canlyniadol llawn
gael eu rhyddhau i Gymru a gwrthdroi lefelau isel o wariant ar welliannau.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
12 |
0 |
42 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu:
a) bod Llywodraeth y DU wedi cydnabod y lefelau
hanesyddol o isel o wariant ar y rheilffyrdd yng Nghymru; a
b) y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi cefnogi cyfres o
flaenoriaethau ar gyfer gwella’r rheilffyrdd a bennwyd gan fwrdd Rheilffyrdd
Cymru.
2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau:
a) cyllid ar gyfer cyfres uchelgeisiol o welliannau i’r
rheilffyrdd, gan gychwyn gyda chyflawni argymhellion Comisiynau Trafnidiaeth
Gogledd Cymru a De-ddwyrain Cymru;
b) adolygiad o brosesau buddsoddi Network Rail er mwyn
sicrhau bod Cymru’n derbyn cyfran deg o fuddsoddiad Network Rail yn y dyfodol;
c) cyllid ar gyfer gwelliannau i Linellau Craidd y
Cymoedd; a
d) lefel briodol o gymhared gyda rhaglenni perthnasol
Llywodraeth y DU o fewn fformiwla Barnett, gan gydnabod bod y cyfrifoldeb am y
rhan hon o’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru bellach wedi’i ddatganoli.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
28 |
0 |
27 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
Cynnig
bod y Senedd:
1. Yn
croesawu:
a)
bod Llywodraeth y DU wedi cydnabod y lefelau hanesyddol o isel o wariant ar y
rheilffyrdd yng Nghymru; a
b) y
ffaith bod Llywodraeth y DU wedi cefnogi cyfres o flaenoriaethau ar gyfer
gwella’r rheilffyrdd a bennwyd gan fwrdd Rheilffyrdd Cymru.
2. Yn
nodi bod Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau:
a)
cyllid ar gyfer cyfres uchelgeisiol o welliannau i’r rheilffyrdd, gan gychwyn
gyda chyflawni argymhellion Comisiynau Trafnidiaeth Gogledd Cymru a De-ddwyrain
Cymru;
b)
adolygiad o brosesau buddsoddi Network Rail er mwyn sicrhau bod Cymru’n derbyn
cyfran deg o fuddsoddiad Network Rail yn y dyfodol;
c)
cyllid ar gyfer gwelliannau i Linellau Craidd y Cymoedd; a
d)
lefel briodol o gymhared gyda rhaglenni perthnasol Llywodraeth y DU o fewn
fformiwla Barnett, gan gydnabod bod y cyfrifoldeb am y rhan hon o’r rhwydwaith
rheilffyrdd yng Nghymru bellach wedi’i ddatganoli.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
29 |
0 |
26 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.