Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 21/10/2025 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 10)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo

NDM9014 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau ym Mil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo i'r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Troednodyn:

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Chwefror 2025 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU (Saesneg yn unig):
https://bills.parliament.uk/publications/60806/documents/6505

Dogfennau ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Ymateb y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.21

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM9014 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau ym Mil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo i'r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Troednodyn:

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Chwefror 2025 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

9

15

48

Derbyniwyd y cynnig.

 


Cyfarfod: 23/06/2025 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 3)

3 Gohebiaeth at y Cadeirydd gan yr Awdurdod Monitro Annibynnol ynghylch Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 23/06/2025 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 7)

7 Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor.


Cyfarfod: 21/05/2025 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg (Eitem 3)

3 Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 21/05/2025 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg (Eitem 3)

3 Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 28/04/2025 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 9)

9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo: Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ystyried yr eitem hon ymhellach drwy e-bost y tu allan i'r Pwyllgor.


Cyfarfod: 28/04/2025 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 9)

9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diogelwch Ffiniau, Lloches a Mewnfudo - trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau ar yr adroddiad drafft.

 


Cyfarfod: 28/04/2025 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 5)

5 Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diogelwch Ffiniau, Lloches a Mewnfudo

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 28/04/2025 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 5)

5 Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip at y Cadeirydd ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diogelwch Ffiniau, Lloches a Mewnfudo

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 02/04/2025 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg (Eitem 7)

7 Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. Oherwydd y dyddiad cau ar gyfer adrodd, byddai’r adroddiad drafft yn cael ei ddosbarthu a'i gytuno'n electronig.

 


Cyfarfod: 02/04/2025 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg (Eitem 4)

4 Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 26/03/2025 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg (Eitem 4)

4 Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 26/03/2025 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg (Eitem 4)

4 Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 19/03/2025 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 1)

1 Cydsyniad deddfwriaethol: Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1     Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo.

 


Cyfarfod: 17/03/2025 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 2)

2 Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo: trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.

 


Cyfarfod: 17/03/2025 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 13)

13 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo a chytunwyd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip mewn perthynas â chydsyniad. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.


Cyfarfod: 13/03/2025 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg (Eitem 8)

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. Bydd adroddiad drafft yn cael ei drafod yn y cyfarfod ar 2 Ebrill.