Cyfarfodydd
NDM8818 Dadl Plaid Cymru - Addysg uwch
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 05/02/2025 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 9)
- Gweddarllediad ar gyfer 05/02/2025 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 05/02/2025 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru - Addysg uwch
NDM8818 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r cyhoeddiad
gan Brifysgol Caerdydd i dorri 400 o swyddi a therfynu sawl cwrs gradd gan
gynnwys hanes yr henfyd, ieithoedd modern a chyfieithu, cerddoriaeth, nyrsio, a
chrefydd a diwinyddiaeth.
2. Yn gresynu at:
a) methiant Llywodraeth
Cymru i sefydlu model ariannu cynaliadwy i brifysgolion yng Nghymru er gwaethaf
rhybuddion dro ar ôl tro gan y sector dros nifer o flynyddoedd;
b) effaith y cyhoeddiad
ar staff a myfyrwyr, ar yr economi, ac ar enw da Cymru fel cenedl ddysgu; ac
c) y pwysau ariannol
cynyddol yn sgîl penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau Yswiriant
Gwladol cyflogwyr a newidiadau i reolau fisa i fyfyrwyr rhyngwladol.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) datblygu, yn unol â'i
gyfrifoldeb datganoledig, strategaeth addysg uwch newydd i ddiogelu swyddi a
gosod y sector ar sail ariannol gynaliadwy;
b) comisiynu asesiad
effaith o'r cynlluniau i gau'r ysgol nyrsio ar lefelau staff nyrsio'r GIG; ac
c) cyhoeddi gwerthusiad
o'r pwysau ariannol sy'n wynebu Prifysgolion Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Prifysgol
Caerdydd wedi lansio ymgynghoriad ffurfiol 90 diwrnod sy'n cynnwys cynigion i
dorri tua 400 o swyddi academaidd.
2. Yn cydnabod:
a) rôl hanfodol
prifysgolion fel sefydliadau angori yn ein cymunedau a'n heconomi;
b) effaith sylfaenol
ystod o ffactorau ar brifysgolion ledled y DU, gan gynnwys Brexit, newidiadau i
ofynion fisa, a chyfraddau llog a chwyddiant uwch; ac
c) cyllid ychwanegol yn
ystod y flwyddyn i brifysgolion yng Nghymru sy'n mynd â chyfanswm y cyllid
grant i dros £200 miliwn yn 2024-25, a'r incwm ychwanegol a gynhyrchir
drwy godi'r cap ar ffioedd dysgu.
3. Yn galw ar Brifysgol
Caerdydd i:
a) sicrhau bod
egwyddorion partneriaeth gymdeithasol yn ganolog i'r broses ymgynghori, fel bod
lleisiau undebau llafur, staff a myfyrwyr yn cael eu clywed; a
b) cefnogi staff a
myfyrwyr y mae'r cynigion yn effeithio arnynt, gan gynnwys galluogi'r holl
fyfyrwyr cofrestredig i gwblhau eu cyrsiau.
4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) gweithio gyda
Llywodraeth y DU i nodi atebion cynaliadwy ar gyfer dyfodol addysg uwch;
b) gweithio gyda
phrifysgolion Cymru i archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithredu ar ddarpariaeth
allweddol; ac
c) gweithio gydag Addysg
a Gwella Iechyd Cymru i sicrhau nad yw unrhyw benderfyniadau a wneir gan
Brifysgol Caerdydd yn effeithio ar nifer y nyrsys a hyfforddir yng Nghymru.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Yn is-bwynt 2 (c), dilëu
popeth ar ôl 'cyflogwyr'.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.27
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y
Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8818 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r cyhoeddiad gan Brifysgol Caerdydd i
dorri 400 o swyddi a therfynu sawl cwrs gradd gan gynnwys hanes yr henfyd,
ieithoedd modern a chyfieithu, cerddoriaeth, nyrsio, a chrefydd a
diwinyddiaeth.
2. Yn gresynu at:
a) methiant Llywodraeth Cymru i sefydlu model
ariannu cynaliadwy i brifysgolion yng Nghymru er gwaethaf rhybuddion dro ar ôl
tro gan y sector dros nifer o flynyddoedd;
b) effaith y cyhoeddiad ar staff a myfyrwyr, ar yr
economi, ac ar enw da Cymru fel cenedl ddysgu; ac
c) y pwysau ariannol cynyddol yn sgîl penderfyniad
Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr a newidiadau
i reolau fisa i fyfyrwyr rhyngwladol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) datblygu, yn unol â'i gyfrifoldeb datganoledig,
strategaeth addysg uwch newydd i ddiogelu swyddi a gosod y sector ar sail
ariannol gynaliadwy;
b) comisiynu asesiad effaith o'r cynlluniau i gau'r
ysgol nyrsio ar lefelau staff nyrsio'r GIG; ac
c) cyhoeddi gwerthusiad o'r pwysau ariannol sy'n
wynebu Prifysgolion Cymru.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
12 |
0 |
43 |
55 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
1.
Yn nodi bod Prifysgol Caerdydd wedi lansio ymgynghoriad ffurfiol 90 diwrnod
sy'n cynnwys cynigion i dorri tua 400 o swyddi academaidd.
2.
Yn cydnabod:
a)
rôl hanfodol prifysgolion fel sefydliadau angori yn ein cymunedau a'n heconomi;
b)
effaith sylfaenol ystod o ffactorau ar brifysgolion ledled y DU, gan gynnwys
Brexit, newidiadau i ofynion fisa, a chyfraddau llog a chwyddiant uwch; ac
c)
cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn i brifysgolion yng Nghymru sy'n mynd â
chyfanswm y cyllid grant i dros £200 miliwn yn 2024-25, a'r incwm
ychwanegol a gynhyrchir drwy godi'r cap ar ffioedd dysgu.
3.
Yn galw ar Brifysgol Caerdydd i:
a)
sicrhau bod egwyddorion partneriaeth gymdeithasol yn ganolog i'r broses
ymgynghori, fel bod lleisiau undebau llafur, staff a myfyrwyr yn cael eu
clywed; a
b)
cefnogi staff a myfyrwyr y mae'r cynigion yn effeithio arnynt, gan gynnwys
galluogi'r holl fyfyrwyr cofrestredig i gwblhau eu cyrsiau.
4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a)
gweithio gyda Llywodraeth y DU i nodi atebion cynaliadwy ar gyfer dyfodol
addysg uwch;
b)
gweithio gyda phrifysgolion Cymru i archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithredu
ar ddarpariaeth allweddol; ac
c)
gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i sicrhau nad yw unrhyw
benderfyniadau a wneir gan Brifysgol Caerdydd yn effeithio ar nifer y nyrsys a
hyfforddir yng Nghymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
29 |
0 |
26 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 2
ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Prifysgol
Caerdydd wedi lansio ymgynghoriad ffurfiol 90 diwrnod sy'n cynnwys cynigion i
dorri tua 400 o swyddi academaidd.
2. Yn cydnabod:
a) rôl hanfodol
prifysgolion fel sefydliadau angori yn ein cymunedau a'n heconomi;
b) effaith sylfaenol
ystod o ffactorau ar brifysgolion ledled y DU, gan gynnwys Brexit, newidiadau i
ofynion fisa, a chyfraddau llog a chwyddiant uwch; ac
c) cyllid ychwanegol yn
ystod y flwyddyn i brifysgolion yng Nghymru sy'n mynd â chyfanswm y cyllid
grant i dros £200 miliwn yn 2024-25, a'r incwm ychwanegol a gynhyrchir
drwy godi'r cap ar ffioedd dysgu.
3. Yn galw ar Brifysgol
Caerdydd i:
a) sicrhau bod
egwyddorion partneriaeth gymdeithasol yn ganolog i'r broses ymgynghori, fel bod
lleisiau undebau llafur, staff a myfyrwyr yn cael eu clywed; a
b) cefnogi staff a
myfyrwyr y mae'r cynigion yn effeithio arnynt, gan gynnwys galluogi'r holl
fyfyrwyr cofrestredig i gwblhau eu cyrsiau.
4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) gweithio gyda
Llywodraeth y DU i nodi atebion cynaliadwy ar gyfer dyfodol addysg uwch;
b) gweithio gyda phrifysgolion
Cymru i archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithredu ar ddarpariaeth allweddol; ac
c) gweithio gydag Addysg
a Gwella Iechyd Cymru i sicrhau nad yw unrhyw benderfyniadau a wneir gan
Brifysgol Caerdydd yn effeithio ar nifer y nyrsys a hyfforddir yng Nghymru.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
29 |
14 |
12 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.