Cyfarfodydd
NDM8724 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil ar gefnogaeth i ofalwyr di-dâl
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 05/02/2025 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 05/02/2025 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 05/02/2025 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil ar gefnogaeth i ofalwyr di-dâl
NDM8724 Sioned
Williams (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil ar sicrhau cydnabyddiaeth a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl.
2. Yn nodi mai diben y
Bil hwn fyddai:
a) gwella'r cymorth sydd
ar gael gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a lleoliadau gofal iechyd ar
gyfer gofalwyr di-dâl, yn seiliedig ar yr hawliau a nodir yn Neddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
b) cadarnhau'r gwaith o
gasglu a monitro data ymgysylltu â gofalwyr di-dâl ar draws gwasanaethau
statudol i adrodd arnynt o bryd i'w gilydd;
c) sicrhau bod rhagor o
ddata gofalwyr di-dâl yn cael e u rhannu, lle bo hynny'n briodol, rhwng
gwasanaethau statudol i gefnogi gofalwyr wrth iddynt lywio drwy wasanaethau ac
eirioli dros y bobl y maent yn gofalu amdanynt; ac
ch)
gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i gydnabod gofalwyr
di-dâl fel grŵp blaenoriaeth wrth ddylunio a darparu pob ymyriad polisi yn
y dyfodol.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.07
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8724 Sioned Williams
(Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil ar sicrhau cydnabyddiaeth a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl.
2. Yn nodi mai diben y
Bil hwn fyddai:
a) gwella'r cymorth
sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a lleoliadau gofal iechyd
ar gyfer gofalwyr di-dâl, yn seiliedig ar yr hawliau a nodir yn Neddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
b) cadarnhau'r gwaith
o gasglu a monitro data ymgysylltu â gofalwyr di-dâl ar draws gwasanaethau
statudol i adrodd arnynt o bryd i'w gilydd;
c) sicrhau bod rhagor
o ddata gofalwyr di-dâl yn cael eu rhannu, lle bo hynny'n briodol, rhwng
gwasanaethau statudol i gefnogi gofalwyr wrth iddynt lywio drwy wasanaethau ac
eirioli dros y bobl y maent yn gofalu amdanynt; a
d) gosod dyletswydd ar
Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i gydnabod gofalwyr di-dâl fel grŵp
blaenoriaeth wrth ddylunio a darparu pob ymyriad polisi yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
31 |
22 |
2 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig.