Cyfarfodydd

Cynnig ar gyfer dadl ffurf hirach

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/11/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3.4)

Dadleuon Agored: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cyfarfod: 23/09/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Dadleuon Agored: adolygiad interim

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 4

Cofnodion:

Adolygodd y Pwyllgor Busnes y profiad o ran y ddwy ddadl agored a gynhaliwyd hyd yma, gwnaethant nodi eu barn gadarnhaol am y fformat a chytunwyd i beidio â gwneud unrhyw addasiadau cyn y ddadl derfynol i'w hamserlennu fel rhan o'r treial.

 


Cyfarfod: 10/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Dadleuon Agored: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 7

Cofnodion:

Datganodd Heledd Fychan AS fuddiant gan ei bod wedi cyflwyno un o'r cynigion i'w ystyried. Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a chytunodd i amserlennu’r cynnig canlynol ar 18 Mehefin 2025:  

 

Heledd Fychan: NNDM8914 Diwylliant a'r Celfyddydau - braf i'w cael neu'n allweddol i ddyfodol Cymru? 

 

 


Cyfarfod: 11/03/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Dadleuon Agored: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 10

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a chytunodd i amserlennu’r cynnig canlynol ar 19 Mawrth 2025: Carolyn Thomas: NNDM8839 A all ynni adnewyddadwy yn unig ddiwallu anghenion ynni Cymru? 

 

 


Cyfarfod: 11/02/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Ychwanegiadau drafft i’r Canllawiau ar gynnal busnes y Senedd yn briodol: Dadleuon Agored

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 13

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y canllawiau i’w cyhoeddi a chytunodd arnynt.

 


Cyfarfod: 21/01/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Cynnig ar gyfer dadl ffurf hirach

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 16

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynnig a chytunodd y dylai Aelodau gyflwyno pynciau arfaethedig ac y dylid eu cyhoeddi ar adeg cyflwyno. Yna byddai'r Pwyllgor Busnes yn dewis un pwnc ar gyfer pob dadl, gan adael pynciau heb eu dewis ar y Cofnod. Cytunwyd dros dro y bydd y ddadl gyntaf yn cael ei chynnal ddydd Mercher 19 Mawrth.

 

 


Cyfarfod: 10/12/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Cynnig ar gyfer dadl ffurf hirach

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 19

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor Busnes yn ystyried yr ymatebion a gafwyd gan Aelodau a grwpiau'r pleidiau i'r cynnig i dreialu fformat newydd ar gyfer dadleuon ffurf hirach o bryd i'w gilydd, a chytunwyd i fwrw ymlaen â'r treial. Cytunodd y Pwyllgor:

 

  • i ddychwelyd mewn cyfarfod dilynol i ystyried cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12.19 – i alluogi cynnal dadleuon ar sail pynciau yn hytrach na chynigion - a chytuno ar ychwanegiadau at ganllawiau yn ymwneud â'r fformat newydd;
  • i ddyrannu y ddadl gyntaf ar gyfer dydd Mercher 19 Mawrth dros dro, yn amodol ar gytuno ar y newid gofynnol i'r Rheolau Sefydlog a'r canllawiau wedi'u diweddaru;
  • i amserlennu'r ddadl gyntaf am 120 munud, gydag adolygiad o hyn i ddilyn y ddadl gyntaf;  
  • i amserlennu pob un o'r dadleuon yn lle Dadl Aelod a Dadl Fer; 
  • i ddefnyddio'r teitl 'Dadl Agored /Open Debate' ar gyfer yr eitem newydd;
  • y dylid gosod y terfynau amser a ganlyn ar gyfer cyfraniadau yn y canllawiau: cyfanswm o 20 munud ar gyfer cyfraniad agoriadol a chloi, cyfraniadau cyntaf yr Aelodau wedi’u cyfyngu i wyth munud ac unrhyw gyfraniadau dilynol i dri munud, a dyraniad o 10 munud i Aelod sy’n siarad fel cynrychiolydd y Llywodraeth;
  • na fyddai unrhyw gyfraniad gan y Llywodraeth yn cael ei wneud fel ymateb i’r ddadl;
  • i ddychwelyd mewn cyfarfod dilynol i ystyried sut y caiff y testun ar gyfer pob dadl ei ddewis.

 

 


Cyfarfod: 22/10/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Cynnig ar gyfer dadl ffurf hirach

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 22

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes opsiynau o ran amserlennu, natur a strwythur cyfnod treialu posibl ar gyfer dadl ffurf hirach achlysurol yn ystod amser Busnes y Senedd yn ystod 2025.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymgynghori â’r Aelodau o’r Senedd a wnaeth y cynnig gwreiddiol a grwpiau’r pleidiau ar ddull gweithredu arfaethedig ar gyfer y cyfnod treialu, ar y sail a ganlyn:

 

  • tair dadl, a drefnir bob tymor yn ystod 2025, gan ddechrau yn nhymor y gwanwyn;
  • trefnu 120 munud ar gyfer y dadleuon, yn bennaf yn lle cyfle ar gyfer un ddadl Aelod ac un Ddadl Fer ar amserlen busnes y Senedd, gyda rhywfaint o hyblygrwydd o ran dadleuon pwyllgor os yw hynny’n briodol;
  • dylai dadleuon gael eu cynnal ar sail pynciau, nid cynigion, ac felly ni fyddai gwelliannau na phleidlais;
  • byddai’r Aelodau’n cael eu gwahodd i gynnig pynciau posibl i’w dewis gan y Pwyllgor Busnes;
  • dylid hwyluso cyfleoedd i’r Aelodau gyfrannu fwy nag unwaith, a byddai ymyriadau hefyd yn cael eu hannog;
  • yr Aelod(au) a gyflwynodd y cynnig yn wreiddiol fyddai’n agor ac yn cloi’r ddadl, heb unrhyw amodau pellach ar drefn y siaradwyr;
  • byddai Aelodau o’r Llywodraeth yn gallu cyfrannu, ond nid ar ffurf ymateb.

 

 


Cyfarfod: 16/07/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Cynnig gan Aelodau ar gyfer dadl ffurf hirach

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 25
  • Cyfyngedig 26

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Busnes drafodaeth bellach ar rinweddau cyflwyno fformat newydd ar gyfer dadleuon estynedig achlysurol i'w cynnal ar brynhawn Mercher i’w threialu, yn dilyn ei ystyriaeth flaenorol o ohebiaeth gan sawl Aelod.

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod y cynnig a'r opsiynau a gyflwynwyd gyda grwpiau pleidiau a dychwelyd i ystyried cynnig manwl mewn cyfarfod yn gynnar yn nhymor yr hydref.

 

 


Cyfarfod: 11/06/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Gohebiaeth gan Aelodau ynghylch busnes y Cyfarfod Llawn ar brynhawn Mercher

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 29

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes lythyr gan Mark Drakeford, Adam Price, Jane Dodds a Paul Davies yn cynnwys cynnig i dreialu fformat achlysurol newydd ar gyfer dadleuon y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher, a chytunwyd y byddai'r ysgrifenyddiaeth yn cyflwyno papur i'w ystyried ymhellach. Mynegodd y Rheolwyr Busnes awydd i drafod y cynnig hwn a dewisiadau eraill posibl gyda'u grwpiau cyn penderfynu a ddylid treialu unrhyw ddull newydd.