Cyfarfodydd
NDM8804 Dadl Plaid Cymru - Brexit a'r berthynas â'r UE yn y dyfodol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 29/01/2025 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 29/01/2025 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 29/01/2025 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru - Brexit a'r berthynas â'r UE yn y dyfodol
NDM8804 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y bydd hi’n
bum mlynedd ers i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol ar 31
Ionawr 2025.
2. Yn gresynu at y
canlynol:
a) yn ôl prosiect Cost
Economaidd Brexit, bod y ffurf Brexit caled a ddilynwyd gan Lywodraeth
flaenorol y DU wedi costio hyd at £4 biliwn i economi Cymru;
b) bod Brexit wedi
lleihau gwerth allforion Cymru hyd at £1.1 biliwn, a bod cytundebau masnach
ôl-Brexit wedi bod yn arbennig o anffafriol i amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu
yng Nghymru;
c) y golled bellach i
Gymru o hyd at £1 biliwn mewn cyllid strwythurol a chyllid datblygu gwledig
Ewropeaidd o ganlyniad i Brexit;
d) y cyfleoedd i
weithio, teithio, astudio a byw yn Ewrop y mae pobl yng Nghymru wedi eu colli o
ganlyniad i Brexit, yn enwedig pobl ifanc;
e) bod Llywodraeth
bresennol y DU wedi methu â mynd i'r afael â'r heriau a achosir gan Brexit i
Gymru a'r DU yn ehangach, ac wedi nodi ei gwrthwynebiad i ailymuno â'r farchnad
sengl a'r undeb tollau; a
f) diddymu Deddf
Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) cyflwyno deddfwriaeth
newydd i hwyluso aliniad ddeinamig rhwng cyfraith Cymru a'r UE;
b) datblygu a mabwysiadu
strategaeth Ewropeaidd gynhwysfawr; ac
c) pwyso ar Lywodraeth y
DU i geisio ailymuno â farchnad sengl ac undeb tollau'r UE.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
1. Yn nodi bod pobl
Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a
gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016.
2. Yn credu y dylid
parchu a gweithredu canlyniad refferenda.
3. Yn nodi ymhellach y
bydd 31 Ionawr 2025 yn nodi pum mlynedd ers i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb
Ewropeaidd yn ffurfiol.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu
ailsefydlu cysylltiadau gyda’r Undeb Ewropeaidd o dan Lywodaeth newydd y DU ac
yn nodi bod y Brexit caled a drafodwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU wedi
bod yn niweidiol i Gymru, ei phobl a’r DU.
2. Yn nodi bod
Llywodraeth Cymru n anelu at sicrhau bod sylw yn cael ei roi i’r niwed a
achoswyd i Gymru wrth i’r DU ymadael â’r UE yn y fath fodd.
3. Yn nodi ymhellach fod
Llywodraeth Cymru yn atgyfnerthu’n effeithiol gysylltiadau gyda phartneriaid
Ewropeaidd drwy gadw ein swyddfa ym Mrwsel ar agor, a phenodi Cynrychiolydd
Llywodraeth Cymru ar gyfer Ewrop; mae wedi cydweithio â Gweinidogion ac Uwch
Swyddogion o wahanol ranbarthau o fewn yr Undeb Ewropeaidd, a hefyd Québec, er
mwyn trafod cydweithredu rhyngranbarthol cynyddol yn ardal yr Iwerydd, a
thrwy’r Rhaglen Taith mae wedi dangos ei ymrwymiad parhaus i hwyluso symudedd
pobl ifanc.
4.
Yn edrych ymlaen at well cysylltiadau gyda’r Undeb Ewropeaidd.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.18
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y
Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8804 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y bydd hi’n bum mlynedd ers i'r Deyrnas
Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol ar 31 Ionawr 2025.
2. Yn gresynu at y canlynol:
a) yn ôl prosiect Cost Economaidd Brexit, bod y
ffurf Brexit caled a ddilynwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU wedi costio hyd at
£4 biliwn i economi Cymru;
b) bod Brexit wedi lleihau gwerth allforion Cymru
hyd at £1.1 biliwn, a bod cytundebau masnach ôl-Brexit wedi bod yn arbennig o
anffafriol i amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu yng Nghymru;
c) y golled bellach i Gymru o hyd at £1 biliwn mewn
cyllid strwythurol a chyllid datblygu gwledig Ewropeaidd o ganlyniad i Brexit;
d) y cyfleoedd i weithio, teithio, astudio a byw yn
Ewrop y mae pobl yng Nghymru wedi eu colli o ganlyniad i Brexit, yn enwedig
pobl ifanc;
e) bod Llywodraeth bresennol y DU wedi methu â mynd
i'r afael â'r heriau a achosir gan Brexit i Gymru a'r DU yn ehangach, ac wedi
nodi ei gwrthwynebiad i ailymuno â'r farchnad sengl a'r undeb tollau; a
f) diddymu Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb
Ewropeaidd (Cymru) 2018.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyflwyno deddfwriaeth newydd i hwyluso aliniad
ddeinamig rhwng cyfraith Cymru a'r UE;
b) datblygu a mabwysiadu strategaeth Ewropeaidd
gynhwysfawr; ac
c) pwyso ar Lywodraeth y DU i geisio ailymuno â
farchnad sengl ac undeb tollau'r UE.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
11 |
1 |
40 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Dileu
popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn
nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y
refferendwm a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016.
2. Yn
credu y dylid parchu a gweithredu canlyniad refferenda.
3. Yn
nodi ymhellach y bydd 31 Ionawr 2025 yn nodi pum mlynedd ers i'r Deyrnas Unedig
adael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
14 |
11 |
27 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu
popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig
bod y Senedd:
1. Yn
croesawu ailsefydlu cysylltiadau gyda’r Undeb Ewropeaidd o dan Lywodaeth newydd
y DU ac yn nodi bod y Brexit caled a drafodwyd gan Lywodraeth flaenorol y
DU wedi bod yn niweidiol i Gymru, ei phobl a’r DU.
2. Yn
nodi bod Llywodraeth Cymru n anelu at sicrhau bod sylw yn cael ei roi i’r niwed
a achoswyd i Gymru wrth i’r DU ymadael â’r UE yn y fath fodd.
3. Yn
nodi ymhellach fod Llywodraeth Cymru yn atgyfnerthu’n effeithiol gysylltiadau
gyda phartneriaid Ewropeaidd drwy gadw ein swyddfa ym Mrwsel ar agor, a phenodi
Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Ewrop; mae wedi cydweithio â
Gweinidogion ac Uwch Swyddogion o wahanol ranbarthau o fewn yr Undeb
Ewropeaidd, a hefyd Québec, er mwyn trafod cydweithredu rhyngranbarthol
cynyddol yn ardal yr Iwerydd, a thrwy’r Rhaglen Taith mae wedi dangos ei
ymrwymiad parhaus i hwyluso symudedd pobl ifanc.
4. Yn
edrych ymlaen at well cysylltiadau gyda’r Undeb Ewropeaidd.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
11 |
14 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
Cynnig
bod y Senedd:
1. Yn
croesawu ailsefydlu cysylltiadau gyda’r Undeb Ewropeaidd o dan Lywodaeth newydd
y DU ac yn nodi bod y Brexit caled a drafodwyd gan Lywodraeth flaenorol y
DU wedi bod yn niweidiol i Gymru, ei phobl a’r DU.
2. Yn
nodi bod Llywodraeth Cymru n anelu at sicrhau bod sylw yn cael ei roi i’r niwed
a achoswyd i Gymru wrth i’r DU ymadael â’r UE yn y fath fodd.
3. Yn
nodi ymhellach fod Llywodraeth Cymru yn atgyfnerthu’n effeithiol gysylltiadau
gyda phartneriaid Ewropeaidd drwy gadw ein swyddfa ym Mrwsel ar agor, a phenodi
Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Ewrop; mae wedi cydweithio â
Gweinidogion ac Uwch Swyddogion o wahanol ranbarthau o fewn yr Undeb
Ewropeaidd, a hefyd Québec, er mwyn trafod cydweithredu rhyngranbarthol
cynyddol yn ardal yr Iwerydd, a thrwy’r Rhaglen Taith mae wedi dangos ei
ymrwymiad parhaus i hwyluso symudedd pobl ifanc.
4. Yn
edrych ymlaen at well cysylltiadau gyda’r Undeb Ewropeaidd.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
11 |
14 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.