Cyfarfodydd
NDM8798 Debate: The Violence against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence Strategy
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 28/01/2025 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 28/01/2025 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 28/01/2025 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl: Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
NDM8798 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni strategaeth trais yn
erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol Llywodraeth Cymru 2022 i
2026.
2. Yn cefnogi galwad i bawb weithredu’n gyflym i ddileu
trais ar sail rhywedd a bod angen gweithredu ar sail dull system gyfan.
Trais
yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: strategaeth 2022 i 2026
Cyd-gyflwynwyr
Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Jane Dodds
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu
fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod
dibyniaeth y cyrff elusennol a thrydydd sector sy'n gweithio yn y maes hwn ar
gyllid tymor byr, cystadleuol yn ychwanegu baich gweinyddol, yn rhwystro
cynllunio tymor hir, ac yn effeithio ar recriwtio a chadw staff, sy'n
effeithio'n arbennig ar sefydliadau llai sy'n gwasanaethu menywod ethnig,
anabl, LHDTC+ a mudol lleiafrifol.
Gwelliant
2 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu
fel pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu
at benderfyniad Llywodraeth y DU i:
a) torri 4.2
y cant o gyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth goroeswyr rheng flaen; a
b) cynyddu
cyfraniadau yswiriant gwladol cyrff elusennol a thrydydd sector sy'n gweithio
yn y maes hwn yng Nghymru, gan waethygu'r pwysau costau presennol ymhellach.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i annog Llywodraeth y DU i eithrio’r cyrff elusennol a
thrydydd sector sy'n gweithio yn y maes hwn rhag y cynnydd arfaethedig i
gyfraniadau yswiriant gwladol.
Gwelliant
3 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu
fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sefydlu model ariannu hirdymor cynaliadwy ar gyfer
gwasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais
rhywiol gyda phrosesau tendro ac adrodd symlach.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.57
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8798 Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig
bod y Senedd:
1.
Yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin
domestig a thrais rhywiol Llywodraeth Cymru 2022 i 2026.
2.
Yn cefnogi galwad i bawb weithredu’n gyflym i ddileu trais ar sail rhywedd a
bod angen gweithredu ar sail dull system gyfan.
Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a
thrais rhywiol: strategaeth 2022 i 2026
Cyd-gyflwynwyr
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Heledd
Fychan (Canol De Cymru)
Jane
Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 Heledd
Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu
fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
credu bod dibyniaeth y cyrff elusennol a thrydydd sector sy'n gweithio yn y
maes hwn ar gyllid tymor byr, cystadleuol yn ychwanegu baich gweinyddol, yn
rhwystro cynllunio tymor hir, ac yn effeithio ar recriwtio a chadw staff, sy'n
effeithio'n arbennig ar sefydliadau llai sy'n gwasanaethu menywod ethnig,
anabl, LHDTC+ a mudol lleiafrifol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 Heledd
Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu
fel pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
gresynu at benderfyniad Llywodraeth y DU i:
a)
torri 4.2 y cant o gyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth goroeswyr rheng
flaen; a
b)
cynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyrff elusennol a thrydydd sector sy'n
gweithio yn y maes hwn yng Nghymru, gan waethygu'r pwysau costau presennol
ymhellach.
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i annog Llywodraeth y DU i eithrio’r cyrff elusennol a
thrydydd sector sy'n gweithio yn y maes hwn rhag y cynnydd arfaethedig i
gyfraniadau yswiriant gwladol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3 Heledd
Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu
fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu model ariannu hirdymor cynaliadwy ar gyfer
gwasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais
rhywiol gyda phrosesau tendro ac adrodd symlach.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8798 Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r cynnydd o ran
cyflawni strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
Llywodraeth Cymru 2022 i 2026.
2. Yn cefnogi galwad i bawb
weithredu’n gyflym i ddileu trais ar sail rhywedd a bod angen gweithredu ar
sail dull system gyfan.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sefydlu model ariannu hirdymor cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau arbenigol
trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol gyda phrosesau
tendro ac adrodd symlach.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd