Cyfarfodydd

P-06-1505 Adolygu Fformiwla Carr Hill yng Nghymru - y system ariannu ar gyfer gofal sylfaenol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/10/2025 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1505 Adolygu Fformiwla Carr Hill yng Nghymru - y system ariannu ar gyfer gofal sylfaenol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd bod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol bellach yn cynnal ymchwiliad i wasanaethau meddygon teulu – disgwylir adroddiad yn y Flwyddyn Newydd. Cytunwyd i gau'r ddeiseb a chyfeirio'r deisebydd at yr ymchwiliad hwnnw i rannu unrhyw dystiolaeth bellach i gynorthwyo'r gwaith hwnnw.

 


Cyfarfod: 14/07/2025 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1505 Adolygu Fformiwla Carr Hill yng Nghymru - y system ariannu ar gyfer gofal sylfaenol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau fod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn craffu ar y mater ar hyn o bryd, gan edrych yn fanwl ar wasanaethau meddygon teulu. Cytunwyd i dynnu sylw’r Pwyllgor hwnnw at yr ohebiaeth ar y ddeiseb hon a gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlenni tebygol ar gyfer y gwaith ymchwilio. Byddai copi o’r llythyr yn cael ei anfon at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn iddo gael gwybod am gamau gweithredu’r Pwyllgor, a byddai’r ddeiseb yn cael ei chadw ar agor tra’n aros am ymateb gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.