Cyfarfodydd
NDM8785 Dadl Plaid Cymru - Amserau aros y GIG
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 15/01/2025 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 15/01/2025 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 15/01/2025 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru - Amserau aros y GIG
NDM8785 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Yn cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi uchelgais y
Prif Weinidog i leihau’r amseroedd aros hiraf a chyflymu mynediad at driniaeth
GIG.
2. Yn gresynu:
a) bod rhestrau aros y
GIG wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed ym mhob mis o gyfnod y Prif Weinidog
hyd yma; a
b) methiant Llywodraeth
Cymru i gyflawni’r targedau a osodwyd gan y Cynllun Adfer Gofal wedi’i
Gynllunio ym mis Ebrill 2022 i ddileu amseroedd aros hir yn gyfan gwbl a
chyflymu profion diagnostig ac ymyriadau therapi.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) sefydlu Gwasanaeth
Brysbennu Gofal Dewisol i symleiddio'r broses atgyfeirio rhwng gofal sylfaenol
ac eilaidd;
b) cyflwyno hybiau
rhanbarthol arbenigol ar gyfer gofal dewisol ledled Cymru; ac
c) cyflwyno deddfwriaeth
i roi Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar sylfaen statudol gyda chylch gwaith
clir i hwyluso cydweithio ar draws byrddau iechyd.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu popeth ar ôl pwynt
1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod arosiadau o
fwy na 104 wythnos wedi gostwng ddau draean ers iddynt fod ar eu hanterth yn
ystod y pandemig.
Yn cydnabod bod
Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £50 miliwn yn ychwanegol yng nghynlluniau'r
byrddau iechyd i leihau'r amseroedd aros hiraf ymhellach yn 2024-25.
Yn cydnabod camau
gweithredu Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â rhestrau aros drwy ddatblygu:
a) y ganolfan
llawfeddygaeth orthopedig ranbarthol yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot;
b) Ysbyty Llandudno yn
ganolfan lawfeddygol orthopedig ar gyfer y Gogledd; ac
c) y ganolfan
ddiagnostig a llawfeddygol yn Llantrisant.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn
ei le:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) ehangu nifer y
canolfannau llawfeddygol a chanolfannau diagnostig;
b) cynyddu nifer y
gwelyau sydd ar gael yn GIG Cymru;
c) cyflwyno cynllun
recriwtio a chadw sylweddol ar gyfer y gweithlu;
d) sicrhau bod y
swm canlyniadol Barnett llawn sy'n deillio o wariant Llywodraeth y DU ar y
GIG ar gael ar gyfer GIG Cymru; a
e)
rhoi'r cymorth ariannol sydd ei angen ar Fwrdd Iechyd Addysgu Powys er mwyn
osgoi eu cynnydd arfaethedig mewn amseroedd aros am driniaethau trawsffiniol.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.15
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y
Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8785 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
1. Yn nodi uchelgais y Prif
Weinidog i leihau’r amseroedd aros hiraf a chyflymu mynediad at driniaeth GIG.
2. Yn gresynu:
a) bod rhestrau aros y GIG wedi cyrraedd y lefelau
uchaf erioed ym mhob mis o gyfnod y Prif Weinidog hyd yma; a
b) methiant Llywodraeth Cymru i gyflawni’r targedau
a osodwyd gan y Cynllun Adfer Gofal wedi’i Gynllunio ym mis Ebrill 2022 i
ddileu amseroedd aros hir yn gyfan gwbl a chyflymu profion diagnostig ac
ymyriadau therapi.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sefydlu Gwasanaeth Brysbennu Gofal Dewisol i
symleiddio'r broses atgyfeirio rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd;
b) cyflwyno hybiau rhanbarthol arbenigol ar gyfer
gofal dewisol ledled Cymru; ac
c) cyflwyno deddfwriaeth i roi Byrddau Partneriaeth
Rhanbarthol ar sylfaen statudol gyda chylch gwaith clir i hwyluso cydweithio ar
draws byrddau iechyd.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
11 |
0 |
39 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu
popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn
nodi bod arosiadau o fwy na 104 wythnos wedi gostwng ddau draean ers iddynt fod
ar eu hanterth yn ystod y pandemig.
Yn cydnabod camau gweithredu Llywodraeth Cymru i fynd i'r
afael â rhestrau aros drwy ddatblygu:
a) y ganolfan llawfeddygaeth orthopedig ranbarthol yn
Ysbyty Castell-nedd Port Talbot;
b) Ysbyty Llandudno yn ganolfan lawfeddygol orthopedig ar
gyfer y Gogledd; ac
c) y ganolfan ddiagnostig a llawfeddygol yn Llantrisant.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
26 |
0 |
24 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
Yn cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi uchelgais y Prif Weinidog i leihau’r
amseroedd aros hiraf a chyflymu mynediad at driniaeth GIG.
2. Yn
nodi bod arosiadau o fwy na 104 wythnos wedi gostwng ddau draean ers iddynt fod
ar eu hanterth yn ystod y pandemig.
3. Yn
cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £50 miliwn yn ychwanegol yng
nghynlluniau'r byrddau iechyd i leihau'r amseroedd aros hiraf ymhellach yn
2024-25.
4. Yn
cydnabod camau gweithredu Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â rhestrau aros
drwy ddatblygu:
a) y
ganolfan llawfeddygaeth orthopedig ranbarthol yn Ysbyty Castell-nedd Port
Talbot;
b)
Ysbyty Llandudno yn ganolfan lawfeddygol orthopedig ar gyfer y Gogledd; ac
c) y
ganolfan ddiagnostig a llawfeddygol yn Llantrisant.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
26 |
11 |
13 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.