Cyfarfodydd
NDM8783 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Chwe mis cyntaf Llywodraeth newydd y DU
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 15/01/2025 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 15/01/2025 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 15/01/2025 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Chwe mis cyntaf Llywodraeth newydd y DU
NDM8783 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi
bod Llywodraeth Lafur y DU wedi bod mewn grym am chwe mis yn Ionawr
2025.
2. Yn gresynu bod
Llywodraeth Lafur y DU wedi:
a) taro ffermwyr Cymru
gyda threth etifeddiaeth newydd;
b) tynnu'r lwfans
tanwydd gaeaf i ffwrdd o hanner miliwn o bensiynwyr yng Nghymru;
c) cynyddu costau
yswiriant gwladol cyflogwyr yng Nghymru.
3. Yn gresynu ymhellach
fod Llywodraeth Cymru wedi methu ag amddiffyn Cymru yn ystod y cyfnod hwn.
4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i wneud y canlynol:
a) gwneud sylwadau brys
i Lywodraeth y DU i'w hannog i wrthdroi eu polisïau i gyflwyno treth
etifeddiaeth, cael gwared ar y lwfans tanwydd gaeaf, a chynyddu costau
yswiriant gwladol cyflogwyr;
b) cyflwyno lwfans
tanwydd gaeaf Cymreig os yw'r toriad i'r lwfans tanwydd gaeaf yn parhau i fod
ar waith.
Cyflwynwyd y gwelliant a
ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu popeth ar ôl pwynt
1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi y bu’n rhaid i
Lywodraeth y DU wneud penderfyniadau anodd er mwyn dechrau adfer twf yn ein
heconomi, sicrhau bod cyllid cyhoeddus yn fwy sefydlog ac ail-fuddsoddi yn ein
gwasanaethau cyhoeddus.
Yn croesawu’r cyllid
ychwanegol i Gymru gan Lywodraeth y DU yng Nghyllideb yr Hydref Llywodraeth y
DU.
Yn nodi’r ffaith bod y
penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Lafur y DU yn ei chwe mis cyntaf yn
golygu bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru yn cynnwys gwerth £1.5 biliwn o
gyllid refeniw ychwanegol a gwerth £3 biliwn o gyllid cyfalaf, gan alluogi Cymru
i anelu at dwf.
Yn
credu y dylai cyllideb Cymru ganolbwyntio i ddechrau ar gyfrifoldebau
datganoledig.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.04
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y
Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8783 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Llywodraeth Lafur y DU wedi bod
mewn grym am chwe mis yn Ionawr 2025.
2. Yn gresynu bod Llywodraeth Lafur y DU wedi:
a) taro ffermwyr Cymru gyda threth etifeddiaeth
newydd;
b) tynnu'r lwfans tanwydd gaeaf i ffwrdd o hanner
miliwn o bensiynwyr yng Nghymru;
c) cynyddu costau yswiriant gwladol cyflogwyr yng
Nghymru.
3. Yn gresynu ymhellach fod Llywodraeth Cymru wedi
methu ag amddiffyn Cymru yn ystod y cyfnod hwn.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
a) gwneud sylwadau brys i Lywodraeth y DU i'w hannog
i wrthdroi eu polisïau i gyflwyno treth etifeddiaeth, cael gwared ar y lwfans
tanwydd gaeaf, a chynyddu costau yswiriant gwladol cyflogwyr;
b) cyflwyno lwfans tanwydd gaeaf Cymreig os yw'r
toriad i'r lwfans tanwydd gaeaf yn parhau i fod ar waith.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
24 |
0 |
26 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu
popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn
nodi y bu’n rhaid i Lywodraeth y DU wneud penderfyniadau anodd er mwyn dechrau
adfer twf yn ein heconomi, sicrhau bod cyllid cyhoeddus yn fwy sefydlog ac
ail-fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus.
Yn
croesawu’r cyllid ychwanegol i Gymru gan Lywodraeth y DU yng Nghyllideb yr
Hydref Llywodraeth y DU.
Yn
nodi’r ffaith bod y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Lafur y DU yn ei chwe
mis cyntaf yn golygu bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru yn cynnwys gwerth
£1.5 biliwn o gyllid refeniw ychwanegol a gwerth £3 biliwn o gyllid cyfalaf,
gan alluogi Cymru i anelu at dwf.
Yn
credu y dylai cyllideb Cymru ganolbwyntio i ddechrau ar gyfrifoldebau
datganoledig.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
26 |
0 |
24 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
Cynnig
bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Llywodraeth
Lafur y DU wedi bod mewn grym am chwe mis yn Ionawr 2025.
2. Yn nodi y bu’n rhaid i Lywodraeth y DU wneud
penderfyniadau anodd er mwyn dechrau adfer twf yn ein heconomi, sicrhau bod
cyllid cyhoeddus yn fwy sefydlog ac ail-fuddsoddi yn ein gwasanaethau
cyhoeddus.
3. Yn croesawu’r cyllid ychwanegol i Gymru gan Lywodraeth
y DU yng Nghyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU.
4. Yn nodi’r ffaith bod y penderfyniadau a wnaed gan
Lywodraeth Lafur y DU yn ei chwe mis cyntaf yn golygu bod Cyllideb Ddrafft
Llywodraeth Cymru yn cynnwys gwerth £1.5 biliwn o gyllid refeniw ychwanegol a
gwerth £3 biliwn o gyllid cyfalaf, gan alluogi Cymru i anelu at dwf.
5. Yn credu y dylai cyllideb Cymru ganolbwyntio i
ddechrau ar gyfrifoldebau datganoledig.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
26 |
0 |
24 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.