Cyfarfodydd
NDM8752 Dadl Plaid Cymru - Diagnosis dementia
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 04/12/2024 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 04/12/2024 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 04/12/2024 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru - Diagnosis dementia
NDM8752 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi mai dim ond
56 y cant o bobl sy'n byw gyda dementia sydd wedi cael diagnosis.
2. Yn gresynu mai Cymru
sydd â’r gyfradd ddiagnosis gyhoeddedig isaf yn y DU.
3. Yn credu gall ffocws
ar ddiagnosis cynnar a chywir wella opsiynau triniaeth, lleihau costau dementia
i’r GIG a gwneud arbediad cost o hyd at £45,000 y pen drwy ohirio derbyniadau i
gartrefi gofal.
4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gynnwys targedau diagnosis dementia newydd yn y cynllun gweithredu
newydd ar gyfer dementia.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu popeth ar ôl pwynt
1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi mai Cymru sydd
â’r gyfradd ddiagnosis gyhoeddedig isaf yn y DU.
Yn credu y gall ffocws
ar ddiagnosis cynnar a chywir wella opsiynau triniaeth ac y gallai leihau
costau dementia i’r GIG.
Yn croesawu bwriad
Llywodraeth Cymru i adnewyddu’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia.
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gynnwys targedau diagnosis dementia newydd yn y cynllun newydd.
Gwelliant 2 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod y cynllun gweithredu newydd ar gyfer dementia yn rhoi
cleifion a'u hanwyliaid yn gyntaf, a'i fod hefyd yn hyrwyddo ymchwil i'r
clefyd.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.31
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8752 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi mai dim ond
56 y cant o bobl sy'n byw gyda dementia sydd wedi cael diagnosis.
2. Yn gresynu mai Cymru sydd
â’r gyfradd ddiagnosis gyhoeddedig isaf yn y DU.
3. Yn credu gall ffocws ar
ddiagnosis cynnar a chywir wella opsiynau triniaeth, lleihau costau dementia
i’r GIG a gwneud arbediad cost o hyd at £45,000 y pen drwy ohirio derbyniadau i
gartrefi gofal.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gynnwys targedau diagnosis dementia newydd yn y cynllun gweithredu newydd ar
gyfer dementia.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
25 |
0 |
27 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi mai Cymru sydd â’r gyfradd ddiagnosis gyhoeddedig
isaf yn y DU.
Yn credu y gall ffocws ar ddiagnosis cynnar a chywir
wella opsiynau triniaeth ac y gallai leihau costau dementia i’r GIG.
Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i adnewyddu’r
Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys targedau diagnosis
dementia newydd yn y cynllun newydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
11 |
14 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynllun
gweithredu newydd ar gyfer dementia yn rhoi cleifion a'u hanwyliaid yn gyntaf,
a'i fod hefyd yn hyrwyddo ymchwil i'r clefyd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi mai dim ond 56 y cant o bobl sy'n byw
gyda dementia sydd wedi cael diagnosis.
2. Yn nodi mai Cymru sydd â’r gyfradd ddiagnosis
gyhoeddedig isaf yn y DU.
3. Yn credu y gall ffocws ar ddiagnosis cynnar a chywir
wella opsiynau triniaeth ac y gallai leihau costau dementia i’r GIG.
4. Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i adnewyddu’r
Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys targedau
diagnosis dementia newydd yn y cynllun newydd.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynllun
gweithredu newydd ar gyfer dementia yn rhoi cleifion a'u hanwyliaid yn gyntaf,
a'i fod hefyd yn hyrwyddo ymchwil i'r clefyd.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.