Cyfarfodydd
NDM8747 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhyddhad eiddo amaethyddol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 27/11/2024 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 27/11/2024 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 27/11/2024 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhyddhad eiddo amaethyddol
NDM8747 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth
Lafur y DU i wyrdroi ei phenderfyniad i osod treth fferm deuluol ar fusnesau
amaethyddol.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod cyfraniad
pwysig ffermwyr at ein heconomi, ein prosesau cynhyrchu bwyd, ein hamgylchedd
a’n cymunedau.
2. Yn nodi penderfyniad
Llywodraeth y DU i newid y rhyddhad eiddo amaethyddol.
3. Yn cydnabod bod
newidiadau Llywodraeth y DU i eyddhad eiddo amaethyddol wedi’u gwneud o fewn
cyd-destun y niwed a achoswyd gan Lywodraeth flaenorol y DU i wasanaethau
cyhoeddus a’r diffyg o £22 biliwn mewn arian cyhoeddus.
4. Yn croesawu cymorth
amrywiol Llywodraeth Cymru i ffermwyr, gan gynnwys sicrhau estyniad i ryddhad
eiddo amaethyddol o fis Ebrill 2025 i gynnwys y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Gwelliant 2 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Ychwanegu fel pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraethau Cymru a’r DU i gynnal asesiad manwl o effaith y newidiadau
trethianol ar fusnesau amaethyddol, er mwyn deall yr effaith y mae’n debygol
o’i gael ar gynaliadwyedd a hyfywedd ffermydd teuluol yng Nghymru.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.38
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8747 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Lafur y
DU i wyrdroi ei phenderfyniad i osod treth fferm deuluol ar fusnesau
amaethyddol.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
24 |
0 |
26 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod cyfraniad pwysig ffermwyr at ein heconomi,
ein prosesau cynhyrchu bwyd, ein hamgylchedd a’n cymunedau.
2. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth y DU i newid y
rhyddhad eiddo amaethyddol.
3. Yn cydnabod bod newidiadau Llywodraeth y DU i eyddhad
eiddo amaethyddol wedi’u gwneud o fewn cyd-destun y niwed a achoswyd gan
Lywodraeth flaenorol y DU i wasanaethau cyhoeddus a’r diffyg o £22 biliwn mewn
arian cyhoeddus.
4. Yn croesawu cymorth amrywiol Llywodraeth Cymru i
ffermwyr, gan gynnwys sicrhau estyniad i ryddhad eiddo amaethyddol o fis Ebrill
2025 i gynnwys y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
26 |
0 |
24 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraethau Cymru a’r DU i gynnal asesiad
manwl o effaith y newidiadau trethianol ar fusnesau amaethyddol, er mwyn deall
yr effaith y mae’n debygol o’i gael ar gynaliadwyedd a hyfywedd ffermydd
teuluol yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
24 |
0 |
26 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod cyfraniad pwysig ffermwyr at ein heconomi,
ein prosesau cynhyrchu bwyd, ein hamgylchedd a’n cymunedau.
2. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth y DU i newid y
rhyddhad eiddo amaethyddol.
3. Yn cydnabod bod newidiadau Llywodraeth y DU i eyddhad
eiddo amaethyddol wedi’u gwneud o fewn cyd-destun y niwed a achoswyd gan Lywodraeth
flaenorol y DU i wasanaethau cyhoeddus a’r diffyg o £22 biliwn mewn arian
cyhoeddus.
4. Yn croesawu cymorth amrywiol Llywodraeth Cymru i
ffermwyr, gan gynnwys sicrhau estyniad i ryddhad eiddo amaethyddol o fis Ebrill
2025 i gynnwys y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
26 |
0 |
24 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.