Cyfarfodydd

P-06-1487 Darparu croesfan i gerddwyr ar yr A4042 yn Llanofer; ei gwneud yn ddiogel i ddefnyddwyr bysiau a gostwng y terfyn cyflymder.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/11/2025 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1487 Darparu croesfan i gerddwyr ar yr A4042 yn Llanofer; ei gwneud yn ddiogel i ddefnyddwyr bysiau a gostwng y terfyn cyflymder.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS fuddiant perthnasol yn unol â Rheol Sefydlog 17.42A gan ei fod yn adnabod y prif ddeisebydd.

Croesawodd yr Aelodau y datblygiadau a amlinellwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet a nodwyd bod y mater yn cael ei symud ymlaen yn weithredol fel mater lleol gan Aelodau etholedig lleol. Barn y mwyafrif o’r Aelodau oedd ei bod hi’n well gadael y mater yn nwylo’r Aelodau lleol nawr, ac felly cytunwyd i gau’r ddeiseb.


Cyfarfod: 20/10/2025 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1487 Darparu croesfan i gerddwyr ar yr A4042 yn Llanofer; ei gwneud yn ddiogel i ddefnyddwyr bysiau a gostwng y terfyn cyflymder.

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 20/01/2025 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1487 Darparu croesfan i gerddwyr ar yr A4042 yn Llanofer; ei gwneud yn ddiogel i ddefnyddwyr bysiau a gostwng y terfyn cyflymder.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Aelodau etholaethol yn y ddwy Senedd wedi gwneud sylwadau ar y mater. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi gofyn i swyddogion drefnu cyfarfod gyda'r deisebydd. Cytunodd yr Aelodau i gadw'r ddeiseb ar agor tra'n disgwyl diweddariad ar ganlyniad y cyfarfod.