Cyfarfodydd
P-06-1481 Mae angen ymchwiliad gyhoeddus ar bobl Cymru i’r rhodd o £200,000 i Vaughan Gething
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 02/12/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 02/12/2024 - Y Pwyllgor Deisebau
- Trawsgrifiad ar gyfer 02/12/2024 - Y Pwyllgor Deisebau
3 P-06-1481 Mae angen ymchwiliad gyhoeddus ar bobl Cymru i’r rhodd o £200,000 i Vaughan Gething.
Dogfennau ategol:
- Briff Ymchwil, Eitem 3
PDF 207 KB
Gweld fel HTML (3/1) 76 KB
- Gohebiaeth gan y Prif Weinidog, 12 Tachwedd 2024, Eitem 3
PDF 102 KB
Cofnodion:
Fel y nodwyd ar
ddechrau’r cyfarfod, esgusododd yr Aelod a oedd yn destun y ddeiseb ei hun ar
gyfer yr eitem hon ar yr agenda.
Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i’r mater hwn fod yn destun craffu parhaus a
helaeth yn y Siambr, ym Mhwyllgorau’r Senedd ac yn y cyfryngau.
Nodwyd bod
adroddiad ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar Fanc
Datblygu Cymru yn dilyn adolygiad llawn o weithrediadau’r Banc, ac yn dangos pa
mor ddifrifol yr oedd y Pwyllgor hwnnw wedi cymryd y mater.
Yn sgil hyn,
cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.