Cyfarfodydd
P-06-1480 Gwneud y menopos yn rhan orfodol o'r cwricwlwm ar gyfer pob myfyriwr y gwyddorau gofal iechyd a meddygaeth.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 10/03/2025 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 10/03/2025 - Y Pwyllgor Deisebau
- Trawsgrifiad ar gyfer 10/03/2025 - Y Pwyllgor Deisebau
3 P-06-1480 Gwneud y menopos yn rhan orfodol o'r cwricwlwm ar gyfer pob myfyriwr y gwyddorau gofal iechyd a meddygaeth.
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 41 KB
Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- Gohebiaeth oddi wrth y Cyngor Meddygol Cyffredinol, 11 Chwefror 2025, (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 191 KB
- Gohebiaeth oddi wrth y Cyngor Meddygol Cyffredinol, 11 Chwefror 2025– Atodiad (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 662 KB
Gweld fel HTML (3/3) 41 KB
Cofnodion:
Nododd y Pwyllgor
yr ymateb defnyddiol gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol a chytunwyd i'w rannu
â'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a oedd yn debygol o ystyried y ffordd
y caiff gwasanaethau menopos eu darparu wrth iddo graffu ar y Cynllun Iechyd Menywod
yn y dyfodol. Diolchodd yr Aelodau i'r deisebydd am godi’r mater pwysig hwn cyn
cytuno y dylid cau’r ddeiseb.
Cyfarfod: 16/01/2025 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 16/01/2025 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Trawsgrifiad ar gyfer 16/01/2025 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
3 Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-06-1480: Gwneud y menopos yn rhan orfodol o’r cwricwlwm ar gyfer pob myfyriwr y gwyddorau gofal iechyd a meddygaeth.
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
|
Diolch am ddarparu ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bydd eich ymateb yn cael ei anfon at aelodau'r Pwyllgor a'i
gyhoeddi ar ein gwefan, yn unol â pholisi preifatrwydd y Senedd. Dylech fod yn ymwybodol, os ydych wedi ymateb fel unigolyn, y bydd eich
enw’n cael ei gyhoeddi, yn ogystal â’ch cyfraniad, oni bai eich bod wedi
gofyn i’ch cyfraniad fod yn ddienw. Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymatebion yn Saesneg ac yn Gymraeg, ac rydym
yn gofyn bod sefydliadau sydd â pholisiau /chynlluniau Iaith Gymraeg yn
darparu ymatebion dwyieithog, lle bo hynny’n berthnasol, yn unol â’u polisïau
gwybodaeth cyhoeddus. Byddaf yn ddiolchgar os allwch cadarnhau a fyddech yn
darparu cyfieithiad Cymraeg o’ch ymateb. Bydd rhagor o wybodaeth yn ymwneud â thrafodaeth y Pwyllgor ynghylch y
mater hwn yn cael ei chyhoeddi maes o law ar wefan y Pwyllgor. |
Thank you for providing a response to the Health and Social Care
Committee consultation. Your response will be circulated to Members of the Committee and
published on our internet site, in line with the Senedd’s privacy policy. Please be aware that if you have responded in a personal capacity, your
name will be published along with your contribution, unless you have asked
for your contribution to be anonymised. The Committee welcomes contributions in English or Welsh, and we ask
organisations with Welsh Language policies / schemes to provide bilingual
responses, where applicable, in line with their public information policies.
I would be grateful if you could confirm whether you will be providing a
Welsh translation of your response. Further information relating to the Committee’s consideration of this
issue will be published in due course on the Committee’s website. |
Cyfarfod: 02/12/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 02/12/2024 - Y Pwyllgor Deisebau
- Trawsgrifiad ar gyfer 02/12/2024 - Y Pwyllgor Deisebau
3 P-06-1480 Gwneud y menopos yn rhan orfodol o’r cwricwlwm ar gyfer pob myfyriwr y gwyddorau gofal iechyd a meddygaeth.
Dogfennau ategol:
- Briff Ymchwil, Eitem 3
PDF 198 KB
Gweld fel HTML (3/1) 78 KB
- Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, 14 Tachwedd 2024, Eitem 3
PDF 146 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i’w chadw ar agor hyd nes y cyhoeddir y Cynllun
Iechyd Menywod, a chyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
i’w hystyried wrth graffu ar y cynllun hwnnw, fel y cytunwyd yn flaenorol o ran
deiseb P-06-1444 Mae gan ferched Gogledd Cymru yr hawl i gael
Gwasanaethau/Clinig Menopos yn Ysbyty Gwynedd.
Cytunodd y
Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Cyngor Meddygol Cyffredinol i ofyn am fwy o
wybodaeth am sut mae’n sicrhau bod hyfforddiant meddygol yn cynnwys menopos fel
agwedd orfodol.