Cyfarfodydd
NDM8732 Dadl Plaid Cymru - Cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 20/11/2024 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 9)
- Gweddarllediad ar gyfer 20/11/2024 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 20/11/2024 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru - Cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr
NDM8732 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi penderfyniad
Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yng
nghyllideb yr hydref.
2. Yn credu y dylai'r
gost ychwanegol i gyflogwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru gael ei dalu'n
llawn gan Drysorlys y DU.
3. Yn nodi asesiad y
Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol fod disgwyl i'r cynnydd yng nghyfraniadau
yswiriant gwladol cyflogwyr arwain at arafu twf cyflogau gwirioneddol ar
adeg pan mai Cymru sydd â’r cyfraddau cyflogaeth isaf yn y
DU.
4. Yn gresynu at y
diffyg eglurder o ran a fydd yr ad-daliad gan Drysorlys y DU yn cynnwys,
ymhlith sectorau eraill, cyflogwyr fel prifysgolion, meddygon teulu a
sefydliadau'r trydydd sector.
5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru:
a) i bwyso ar Drysorlys
y DU i sicrhau bod yr ad-daliad ar gyfer costau ychwanegol cyfraniadau
yswiriant gwladol yn y sector cyhoeddus yn seiliedig ar ddiffiniadau StatsCymru
a’r Arolwg o’r Lafurlu o weithlu'r sector cyhoeddus, sy'n cynnwys ymhlith sectorau
eraill cyflogwyr fel prifysgolion, meddygon teulu a sefydliadau'r trydydd
sector.
b) i ddarparu
dadansoddiad cynhwysfawr o'r effaith y bydd y cynnydd yng nghyfraniadau
yswiriant gwladol cyflogwyr yn ei chael ar y farchnad swyddi yng Nghymru; ac
c) i gynyddu lefel y
rhyddhad ardrethi busnes yng nghyllideb Cymru sydd ar ddod er mwyn lliniaru ar
effaith y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol yn y sector busnesau bach
a chanolig domestig.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) penderfyniad
Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yng
nghyllideb yr hydref, er mwyn helpu i sefydlogi sefyllfa ariannol y wlad;
b) asesiad cyffredinol y
Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y bydd effaith net polisïau Cyllideb Llywodraeth
y DU yn cynyddu twf yn y tymor hwy;
c) awgrym Trysorlys y DU
y bydd cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu ar gyfer costau cyfraniadau
yswiriant gwladol cyflogwyr yn y sector cyhoeddus;
d) cadarnhad Trysorlys y
DU y bydd, wrth wneud hynny, yn dilyn dosbarthiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol,
sef yr hyn a fabwysiadwyd gan lywodraethau blaenorol; ac
e) o ganlyniad i’r holl
fesurau yng Nghyllideb Llywodraeth y DU, na fydd 865,000 o fusnesau yn y DU yn
talu cyfraniadau yswiriant gwladol o gwbl, ac y bydd dros hanner y cyflogwyr
sydd ag atebolrwydd i dalu cyfraniadau yswiriant gwladol naill ai’n gweld dim
newid neu ar eu hennill yn gyffredinol y flwyddyn nesaf.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu fel pwynt
newydd ar ôl pwynt 4 ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gresynu ymhellach fod
Llywodraeth Lafur y DU wedi torri ymrwymiad yn ei maniffesto i beidio â chodi
treth ar bobl sy'n gweithio.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.48
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8732 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi penderfyniad
Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yng
nghyllideb yr hydref.
2. Yn credu y dylai'r gost
ychwanegol i gyflogwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru gael ei dalu'n llawn
gan Drysorlys y DU.
3. Yn nodi asesiad y Swyddfa
Cyfrifoldeb Cyllidebol fod disgwyl i'r cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant
gwladol cyflogwyr arwain at arafu twf cyflogau gwirioneddol ar adeg pan
mai Cymru sydd â’r cyfraddau cyflogaeth isaf yn y DU.
4. Yn gresynu at y diffyg
eglurder o ran a fydd yr ad-daliad gan Drysorlys y DU yn cynnwys, ymhlith
sectorau eraill, cyflogwyr fel prifysgolion, meddygon teulu a sefydliadau'r
trydydd sector.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i bwyso ar Drysorlys y DU i
sicrhau bod yr ad-daliad ar gyfer costau ychwanegol cyfraniadau yswiriant
gwladol yn y sector cyhoeddus yn seiliedig ar ddiffiniadau StatsCymru a’r
Arolwg o’r Lafurlu o weithlu'r sector cyhoeddus, sy'n cynnwys ymhlith sectorau
eraill cyflogwyr fel prifysgolion, meddygon teulu a sefydliadau'r trydydd
sector.
b) i ddarparu dadansoddiad
cynhwysfawr o'r effaith y bydd y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol
cyflogwyr yn ei chael ar y farchnad swyddi yng Nghymru; ac
c) i gynyddu lefel y rhyddhad
ardrethi busnes yng nghyllideb Cymru sydd ar ddod er mwyn lliniaru ar effaith y
cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol yn y sector busnesau bach a
chanolig domestig.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
19 |
0 |
25 |
44 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau
yswiriant gwladol cyflogwyr yng nghyllideb yr hydref, er mwyn helpu i sefydlogi
sefyllfa ariannol y wlad;
b) asesiad cyffredinol y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y
bydd effaith net polisïau Cyllideb Llywodraeth y DU yn cynyddu twf yn y tymor
hwy;
c) awgrym Trysorlys y DU y bydd cyllid ychwanegol yn cael
ei ddarparu ar gyfer costau cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn y sector
cyhoeddus;
d) cadarnhad Trysorlys y DU y bydd, wrth wneud hynny, yn
dilyn dosbarthiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sef yr hyn a fabwysiadwyd gan
lywodraethau blaenorol; ac
e) o ganlyniad i’r holl fesurau yng Nghyllideb
Llywodraeth y DU, na fydd 865,000 o fusnesau yn y DU yn talu cyfraniadau
yswiriant gwladol o gwbl, ac y bydd dros hanner y cyflogwyr sydd ag atebolrwydd
i dalu cyfraniadau yswiriant gwladol naill ai’n gweld dim newid neu ar eu
hennill yn gyffredinol y flwyddyn nesaf.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
23 |
0 |
21 |
44 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 2
ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau
yswiriant gwladol cyflogwyr yng nghyllideb yr hydref, er mwyn helpu i sefydlogi
sefyllfa ariannol y wlad;
b) asesiad cyffredinol y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y
bydd effaith net polisïau Cyllideb Llywodraeth y DU yn cynyddu twf yn y tymor
hwy;
c) awgrym Trysorlys y DU y bydd cyllid ychwanegol yn cael
ei ddarparu ar gyfer costau cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn y sector
cyhoeddus;
d) cadarnhad Trysorlys y DU y bydd, wrth wneud hynny, yn
dilyn dosbarthiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sef yr hyn a fabwysiadwyd gan
lywodraethau blaenorol; ac
e) o ganlyniad i’r holl fesurau yng Nghyllideb
Llywodraeth y DU, na fydd 865,000 o fusnesau yn y DU yn talu cyfraniadau
yswiriant gwladol o gwbl, ac y bydd dros hanner y cyflogwyr sydd ag atebolrwydd
i dalu cyfraniadau yswiriant gwladol naill ai’n gweld dim newid neu ar eu
hennill yn gyffredinol y flwyddyn nesaf.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
23 |
0 |
21 |
44 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.