Cyfarfodydd

P-06-1476 Clustogfa orfodol 1000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a phresennol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/11/2025 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1476 Clustogfa orfodol 1000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a phresennol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafwyd datganiad o fuddiant perthnasol gan Heledd Fychan AS yn unol â Rheol Sefydlog 17.42A – Mae hi wedi bod yn gysylltiedig â’r ddeiseb hon ac wedi cyfarfod â’r deisebwyr.

 

Trafododd yr Aelodau a ddylai'r Pwyllgor gymryd camau gweithredu ychwanegol, o ystyried bod y mater hwn eisoes wedi'i drafod yn y Siambr, a bod cwestiynau ychwanegol wedi'u codi hefyd.

 

Penderfynodd yr Aelodau y dylid ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn am gyfarfod – gan wahodd Aelodau eraill o’r Senedd sydd â diddordeb yn y mater hwn – i nodi’n union pa wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer cynnal adolygiad o MTAN 1, a luniwyd cyn i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ddod i rym.

 

Cytunodd yr Aelodau i nodi'r materion a godwyd gan y ddeiseb yn yr adroddiad etifeddiaeth. 

 


Cyfarfod: 14/07/2025 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1476 Clustogfa orfodol 1000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a phresennol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau fod teimladau cryf ar y mater ac anhapusrwydd ynghylch ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i'r ddadl. Ar ôl trafodaeth, cytunodd y Pwyllgor ar gam olaf cyn cau'r ddeiseb. Cytunwyd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i ofyn am eglurhad ynghylch pa dystiolaeth fyddai ei hangen er mwyn adolygu'r Nodyn Cyngor Technegol perthnasol, MTAN1, gan fod yr Aelodau eisoes wedi cael llawer o dystiolaeth sain, ffotograffig a ffisegol arall yn ymwneud â’r chwarel. Nodwyd hefyd y gallai chwareli eraill sydd wedi'u cau yng Nghymru ddod yn weithredol eto yn y dyfodol ac felly roedd yn fater cenedlaethol. Byddai'r ddeiseb yn aros ar agor tra’n disgwyl am yr ymateb hwnnw.

 


Cyfarfod: 04/06/2025 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)

Dadl ar ddeiseb P-06-1476: Clustogfa orfodol 1000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a phresennol

NDM8910 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1476 Clustogfa orfodol 1000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a phresennol.’ a gasglodd 11,473 o lofnodion.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.16
NDM8910 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1476 Clustogfa orfodol 1000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a phresennol.’ a gasglodd 11,473 o lofnodion.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 24/03/2025 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1476 Clustogfa orfodol 1000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a phresennol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes a gofyn am ddadl ynghylch y ddeiseb, gan bwysleisio pwysigrwydd cynnal y ddadl cyn gynted â phosibl, a nodi bod gwybodaeth newydd bellach ar gael yn dilyn dadl Heledd Fychan ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil yn ymwneud â phrosesau cynllunio ar gyfer datblygu chwareli, a gynhaliwyd ar 16 Hydref 2024.

 


Cyfarfod: 18/11/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1476 Clustogfa orfodol 1000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a phresennol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb yn helaeth, ar ôl cwrdd â'r deisebwyr i glywed eu pryderon drostynt eu hunain.

 

Nodwyd bod Comisiynydd Plant Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, y Bwrdd Iechyd Lleol a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn ymwybodol o'r materion yn ymwneud ag iechyd a llesiant pobl leol, yn enwedig plant lleol, gyda rhai ohonynt yn ymwneud â'r ddeiseb a'r ymgyrch leol.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu llythyr cryf at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn gofyn am ymateb manylach i'r materion penodol a godir gan y ddeiseb ac yn y ddadl ar 16 Hydref ar Gynnig Deddfwriaethol Aelodau gan Heledd Fychan ar gyfer Bil yn ymwneud â phrosesau cynllunio ar gyfer datblygu chwareli. Byddai hyn yn cynnwys gofyn beth sydd wedi'i wneud i fynd i'r afael â'r materion a godwyd pan wrthodwyd y cais, a chadarnhau a fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn adolygu'r canllawiau o ran Polisi Cynllunio Cymru ac MTAN1, ac os felly, beth yw'r amserlen ar gyfer y gwaith hwnnw.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at Gyngor Rhondda Cynon Taf i gael rhagor o wybodaeth am y materion penodol sy'n ymwneud â chwarel Craig Yr Hesg a pha gamau roedd yn eu cymryd i ymdrin â phryderon trigolion - gan gynnwys sut y mae'n ymgysylltu â'r gweithredwr a'r cymunedau lleol yng ngoleuni ehangu gweithrediadau, statws y grŵp cyswllt cymunedol, a manylion yr holl fesurau sy'n cael eu cymryd i ddiogelu iechyd y cyhoedd yn lleol.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at berchennog y chwarel, Heidelberg Materials, i ofyn pa fesurau lliniaru y mae'n eu cymryd i fynd i'r afael â holl bryderon y deisebwyr a sut mae'n ymgysylltu â nhw.

 

Diolchodd yr Aelodau eto i'r deisebwyr am eu dyfalbarhad wrth godi'r mater hwn yn y Senedd, a chytunwyd i gadw'r ddeiseb ar agor tra'n disgwyl yr ymatebion.

 

Byddai copi o’r ohebiaeth yn ymwneud â'r ddeiseb hon yn cael ei hanfon at Aelodau lleol o'r Senedd er mwyn codi ymwybyddiaeth, gan gynnwys yr holl Aelodau a gododd faterion yn ystod y ddadl ar 16 Hydref.

 

Nododd yr Aelodau fod y ddeiseb wedi croesi'r trothwy o 10,000 i gael ei hystyried ar gyfer dadl, ond nodwyd bod dadl ar gyfer Cynnig Deddfwriaethol Aelodau wedi'i chynnal ar 16 Hydref, a chytunodd y Pwyllgor i ohirio penderfyniad ar ofyn am ddadl tan ar ôl iddo gael ymatebion i ohebiaeth.