Cyfarfodydd

P-06-1478 Dylid cynnal adolygiad cynhwysfawr o waith Cyfoeth Naturiol Cymru a methiannau’r sefydliad o ran cyflawni ei rwymedigaethau statudol i ddiogelu Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/02/2025 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1478 Dylid cynnal adolygiad cynhwysfawr o waith Cyfoeth Naturiol Cymru a methiannau’r sefydliad o ran cyflawni ei rwymedigaethau statudol i ddiogelu Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau mai’r peth mwyaf priodol oedd i Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd fynd ar drywydd y materion hyn yn ei waith craffu ar CNC ym mis Mawrth 2025. Byddai cwestiynau a sylwadau'r deisebwyr - ynghyd â rhai deiseb 1448 Atal llygredd ym Mae’r Tŵr Gwylio ac Aberogwr - yn cael eu hanfon at Gadeirydd y Pwyllgor hwnnw. Diolchodd yr Aelodau i’r deisebydd a chytunwyd i gau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 15/01/2025 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 2)

2 Deiseb: P-06-1478 Dylid cynnal adolygiad cynhwysfawr o waith Cyfoeth Naturiol Cymru a methiannau’r sefydliad o ran cyflawni ei rwymedigaethau statudol i ddiogelu Cymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/01/2025 - Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (Eitem 4)

4 Deiseb P-06-1478 Dylid cynnal adolygiad cynhwysfawr o waith Cyfoeth Naturiol Cymru a methiannau’r sefydliad o ran cyflawni ei rwymedigaethau statudol i ddiogelu Cymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 18/11/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1478 Dylid cynnal adolygiad cynhwysfawr o waith Cyfoeth Naturiol Cymru a methiannau’r sefydliad o ran cyflawni ei rwymedigaethau statudol i ddiogelu Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i anfon gohebiaeth y deisebwyr at y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i ofyn am ei farn arni, ac i anfon copi at Gadeiryddion y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig er gwybodaeth iddynt.

 

Nododd yr Aelodau y bydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn parhau i graffu ar y materion hyn a bydd cyfleoedd hefyd i'r Aelodau barhau i'w codi yn y Cyfarfod Llawn.

 

Fel y cytunwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor ar ddwy ddeiseb ar wahân ynghylch dull Cyfoeth Naturiol Cymru o ran ymdrin â gwasanaethau canolfannau ymwelwyr, cytunodd y Pwyllgor i gadw'r ddeiseb ar agor nes y daw ymateb gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.