Cyfarfodydd
NDM8701 Dadl Plaid Cymru - Cyllideb Llywodraeth y DU
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 23/10/2024 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 23/10/2024 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 23/10/2024 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru - Cyllideb Llywodraeth y DU
NDM8701 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Yn cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) cyllideb Llywodraeth
y DU sydd ar ddod; a
b) y sefyllfa cyllid
cyhoeddus hynod heriol, gyda chyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn
ariannol bresennol gwerth £700 miliwn yn llai mewn termau real o'i gymharu â
phan gafodd ei gosod gyntaf.
2. Yn gresynu fod
Llywodraeth Lafur y DU wedi gwrthod:
a) darparu unrhyw
gyllid canlyniadol i Gymru o brosiect HS2;
b) datganoli Ystâd y
Goron yng Nghymru i sicrhau bod elw o'i hasedau yn mynd yn syth i gyllideb
Cymru; ac
c) disodli fformiwla
Barnett gyda fframwaith ariannu sy'n seiliedig ar anghenion.
3. Yn gresynu at
fethiant y 'bartneriaeth o bŵer' rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a
Llywodraeth Lafur y DU i sicrhau buddion diriaethol i Gymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i osod gofynion brys ar Lywodraeth Lafur y DU, ac i gyhoeddi'r ohebiaeth,
gan ofyn i'r gyllideb gynnwys:
a) ailddosbarthu HS2 yn
brosiect i Loegr yn unig;
b) ymrwymiad bod Cymru'n
derbyn £4 biliwn o gyllid canlyniadol HS2, fel y mae Gweinidogion Llywodraeth
Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi galw amdano;
c) ymrwymiad i
ddatganoli Ystâd y Goron cyn gynted â phosibl, gydag amserlenni perthnasol;
d) ymrwymiad i ddisodli
fformiwla Barnett cyn gynted â phosibl, gydag amserlenni perthnasol;
e) ymrwymiad i adfer
lwfans tanwydd y gaeaf i bensiynwyr; ac
f) ymrwymiad i gael
gwared ar y cap budd-dal dau blentyn.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Dileu'r cyfan a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cyllideb
Llywodraeth y DU sydd ar ddod.
2 Yn gresynu fod
Llywodraeth Lafur y DU wedi gwrthod:
a) dileu'r toriad mewn
taliadau tanwydd gaeaf, a fydd yn gweld tua 400,000 o aelwydydd yng Nghymru yn
colli hyd at £300 y pen;
b) diystyru unrhyw
gynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol;
c) sicrhau bod Cymru'n
derbyn ei symiau canlyniadol o HS2;
d) ariannu'r gwaith o
drydaneiddio prif reilffordd Gogledd Cymru; ac
e) cyflwyno trefniant
ariannu newydd i Gymru i ddisodli'r fformiwla Barnett hen ffasiwn.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i osod gofynion brys ar Lywodraeth Lafur y DU, ac i gyhoeddi’r ohebiaeth,
gan ofyn i'r gyllideb gynnwys cynlluniau i:
a) dileu toriad taliadau
tanwydd y gaeaf;
b) sicrhau nad oes
cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol;
c) galluogi Cymru i
dderbyn ei chyfran deg o gyllid canlyniadol HS2;
d) trydaneiddio prif
reilffordd Gogledd Cymru; ac
e) dileu'r fformiwla
Barnett hen ffasiwn a'i ddisodli â fformiwla ariannu newydd yn seiliedig ar
anghenion, sy'n deg, yn dryloyw ac yn darparu ar gyfer pobl Cymru.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.
Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu pwyntiau 2, 3 a 4
a rhoi yn eu lle:
Yn sylweddoli bod y
sefyllfa ariannol a etifeddodd Llywodraeth Lafur y DU gan Lywodraeth flaenorol
y DU yn un hynod heriol.
Yn cydnabod bod ethol
Llywodraeth newydd y DU yn gyfle i ailosod a gwella’r berthynas
rynglywodraethol.
Yn nodi mai
blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb Llywodraeth y DU yn yr
hydref yw:
a) cynnydd mewn gwariant
adnoddau a chyfalaf uwchlaw’r lefel a bennwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU;
b) hyblygrwydd
cyllidebol ychwanegol;
c) rhaglen fuddsoddi ar
y cyd i fynd i'r afael â diogelwch tomenni glo; a
d)
ymrwymiad i ragor o drafodaethau am gyllid mewn perthynas â HS2, ac am
fuddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd yn y dyfodol.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 19.01
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8701 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Yn cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) cyllideb Llywodraeth y DU
sydd ar ddod; a
b) y sefyllfa cyllid cyhoeddus
hynod heriol, gyda chyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol
bresennol gwerth £700 miliwn yn llai mewn termau real o'i gymharu â phan gafodd
ei gosod gyntaf.
2. Yn gresynu fod Llywodraeth
Lafur y DU wedi gwrthod:
a) darparu unrhyw gyllid
canlyniadol i Gymru o brosiect HS2;
b) datganoli Ystâd y Goron yng
Nghymru i sicrhau bod elw o'i hasedau yn mynd yn syth i gyllideb Cymru; ac
c) disodli fformiwla Barnett
gyda fframwaith ariannu sy'n seiliedig ar anghenion.
3. Yn gresynu at fethiant y
'bartneriaeth o bŵer' rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Llywodraeth Lafur y
DU i sicrhau buddion diriaethol i Gymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i osod gofynion brys ar Lywodraeth Lafur y DU, ac i gyhoeddi'r ohebiaeth, gan
ofyn i'r gyllideb gynnwys:
a) ailddosbarthu HS2 yn
brosiect i Loegr yn unig;
b) ymrwymiad bod Cymru'n derbyn
£4 biliwn o gyllid canlyniadol HS2, fel y mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac
Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi galw amdano;
c) ymrwymiad i ddatganoli Ystâd
y Goron cyn gynted â phosibl, gydag amserlenni perthnasol;
d) ymrwymiad i ddisodli
fformiwla Barnett cyn gynted â phosibl, gydag amserlenni perthnasol;
e) ymrwymiad i adfer lwfans
tanwydd y gaeaf i bensiynwyr; ac
f) ymrwymiad i gael gwared ar y
cap budd-dal dau blentyn.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
12 |
0 |
42 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cyllideb Llywodraeth y DU sydd ar ddod.
2 Yn gresynu fod Llywodraeth Lafur y DU wedi gwrthod:
a) dileu'r toriad mewn taliadau tanwydd gaeaf, a fydd yn
gweld tua 400,000 o aelwydydd yng Nghymru yn colli hyd at £300 y pen;
b) diystyru unrhyw gynnydd i gyfraniadau yswiriant
gwladol;
c) sicrhau bod Cymru'n derbyn ei symiau canlyniadol o
HS2;
d) ariannu'r gwaith o drydaneiddio prif reilffordd
Gogledd Cymru; ac
e) cyflwyno trefniant ariannu newydd i Gymru i ddisodli'r
fformiwla Barnett hen ffasiwn.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod gofynion brys ar
Lywodraeth Lafur y DU, ac i gyhoeddi’r ohebiaeth, gan ofyn i'r gyllideb gynnwys
cynlluniau i:
a) dileu toriad taliadau tanwydd y gaeaf;
b) sicrhau nad oes cynnydd i gyfraniadau yswiriant
gwladol;
c) galluogi Cymru i dderbyn ei chyfran deg o gyllid
canlyniadol HS2;
d) trydaneiddio prif reilffordd Gogledd Cymru; ac
e) dileu'r fformiwla Barnett hen ffasiwn a'i ddisodli â
fformiwla ariannu newydd yn seiliedig ar anghenion, sy'n deg, yn dryloyw ac yn
darparu ar gyfer pobl Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
15 |
10 |
29 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwyntiau 2, 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn sylweddoli bod y sefyllfa ariannol a etifeddodd
Llywodraeth Lafur y DU gan Lywodraeth flaenorol y DU yn un hynod heriol.
Yn cydnabod bod ethol Llywodraeth newydd y DU yn gyfle i
ailosod a gwella’r berthynas rynglywodraethol.
Yn nodi mai blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer
cyllideb Llywodraeth y DU yn yr hydref yw:
a) cynnydd mewn gwariant adnoddau a chyfalaf uwchlaw’r
lefel a bennwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU;
b) hyblygrwydd cyllidebol ychwanegol;
c) rhaglen fuddsoddi ar y cyd i fynd i'r afael â
diogelwch tomenni glo; a
d) ymrwymiad i ragor o drafodaethau am gyllid mewn
perthynas â HS2, ac am fuddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
0 |
28 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd
ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y
gwelliant.